NDM7599 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Parth perygl nitradau Cymru gyfan
NDM7599 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Parth perygl nitradau Cymru gyfan
NDM7599 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i wrthdroi'r penderfyniad i gyflwyno parth perygl nitradau Cymru gyfan.
2. Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno cynigion i fynd i'r afael â llygredd yng
Nghymru.
Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn
ei le:
Yn cefnogi uchelgais
ffermio Cymru i fod y mwyaf cyfeillgar yn y byd o ran natur a’r hinsawdd ac
ymuno â’r undebau ffermio i gydnabod bod un achos o lygredd amaethyddol yn un
achos yn ormod.
Yn cydnabod bod ffermio yng
Nghymru yn cynnig llawer o’r atebion pwysicaf i argyfwng yr hinsawdd, a bod
llawer o ffermwyr Cymru eisoes wedi sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen i’w
harferion ffermio.
Yn derbyn bod rheoli
allyriadau amaethyddol yn rhan annatod o’r ymdrech i sicrhau allyriadau
sero-net yng Nghymru ac ar draws y DU.
Yn cytuno mai’r cam
cyntaf i daclo allyriadau amaethyddol yw cynnal y mesurau rheoli da sydd eisoes
yn cael eu cynnal gan y rhan fwyaf o ffermwyr.
Math o fusnes: Dadl
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2021