Gwaddol y Bumed Senedd - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Gwaddol y Bumed Senedd - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Fel arfer, cyn etholiad y Senedd, mae’r rhan fwyaf
o bwyllgorau yn dirwyn eu gwaith i ben drwy lunio adroddiad gwaddol.
Fodd bynnag, oherwydd y pandemig COVID-19, gwnaeth
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
flaenoriaethu’r gwaith o graffu ar effaith yr argyfwng iechyd cyhoeddus ar blant a phobl
ifanc, gan gynnwys myfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch, yn ystod
wythnosau olaf y bumed Senedd.
Mae adroddiad terfynol y Pwyllgor yn canolbwyntio
ar y broses adfer ar gyfer plant a phobl ifanc yn sgil COVID-19. Fodd bynnag,
effeithiodd COVID-19 ar bob maes polisi a’r holl ddeddfwriaeth a drafodwyd gan
y Pwyllgor yn ystod y pumed Senedd. Felly, mae adroddiad terfynol y Pwyllgor
(i’w gyhoeddi yr wythnos sy’n dechrau ar 22 Mawrth) wedi’i lywio gan yr holl
wersi a ddysgwyd yn ystod y cyfnod 2016-2021, yn ogystal â’r gwaith o graffu ar
y ffordd y cafodd y pandemig COVID-19 ei reoli. Mae’r adroddiad hefyd yn
cynnwys cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru a’r Pwyllgor perthnasol nesaf
eu trafod yn ystod y chweched Senedd.
Nododd y Pwyllgor ei
fod yn bwriadu ymdrin â’i waddol yn y modd hwn, gan amlinellu effaith COVID-19
ar ei waith, mewn llythyr
at randdeiliaid (PDF, 195KB) a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/03/2021
Dogfennau