Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru), Bil Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Cyfeiriwyd y Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan y Pwyllgor Busnes.

Gwybodaeth am y Bil

Mae’r Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) yn cynnwys darpariaeth i awdurdodau bwyd  weithredu cynllun sgorio hylendid bwyd ac yn rhoi dyletswydd ar fusnesau bwyd i arddangos eu sgôr hylendid bwyd yn eu sefydliadau.

Cyfnod presennol y Bil

Daeth Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013, yn gyfraith yng Nghymru ar 4 Mawrth 2013. (gwefan allanol)


Cofnod o Hynt y Bil yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl canlynol yn nodi dyddiadau pob un o gyfnodau’r Bil wrth iddo fynd drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 Cyfnod

Dogfennau


Cyflwyno’r Bil – 28 Mai 2012


Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF, 108 KB)

Memorandwm Esboniadol (PDF, 240KB)

Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol: 28 Mai 2012 (PDF, 128KB)

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil (PDF, 71KB)

Crynodeb y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil (PDF, 454KB)

Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 30 Mawrth 2012

 

Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 28 Mai 2012

Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 29 Mai 2012

 

Datganiad yn y Cyfarfod Llawn: Cyflwyno Bil Sgorio Hylendid Bwyd: 29 Mai 2012

Y Pwyllgor Busnes - Amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) (PDF, 58.7KB)


Cyfnod 1
- Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol


Ymgynghoriad


Ystyriodd y Pwyllgor y Bil ar y dyddiadau canlynol:

30 Mai 2012
20 Mehefin 2012
12 Gorffennaf (am) 2012

12 Gorffennaf (pm) 2012
18 Gorffennaf 2012

27 Medi 2012

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (PDF, 661KB)

 

Adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF, 421KB)


Cyfnod 1
- Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol


Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Hydref 2012.

Penderfyniad Ariannol

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Hydref 2012.



Cyfnod 2
- Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau


Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 7 Tachwedd 2012.

Hysbysiad Ynghylch Gwelliannau: 29 Hydref 2012 (PDF, 77.1KB)

Hysbysiad Ynghylch Gwelliannau: 30 Hydref 2012 (PDF, 55KB)

Hysbysiad Ynghylch Gwelliannau: 31 Hydref 2012 (PDF, 61.9KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 7 Tachwedd 2012 (PDF, 92 KB)

Grwpio Gwelliannau: 7 Tachwedd 2012 Cofnodion Cryno: 7 Tachwedd 2012 (PDF, 62KB)

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 117KB). (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

Memorandwm Esboniadol, diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2
(PDF, 242KB)

Crynodeb o'r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2
(PDF, 155KB)




Cyfnod 3
- Y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Ionawr 2013.

 

Hysbysiad Ynghylch Gwelliannau: 11 Ionawr 2013 (PDF, 62 KB)

Hysbysiad Ynghylch Gwelliannau: 15 Ionawr 2013 (PDF, 65 KB)

Hysbysiad Ynghylch Gwelliannau: 22 Ionawr 2013 (PDF, 76 KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 22 Ionawr 2013 (PDF, 62KB)


Cyfnod 4
– Pasio’r Bil yn y Cyfarfod Llawn


Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 22 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru), fel y’i pasiwyd (PDF, 119KB)


Dyddiad Cydsyniad Brenhinol


Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol (PDF, 41.1KB)ar 4 Mawrth 2013.


Manylion cysylltu


Clerc:
Fay Buckle

Ffôn: 029 2089 8041

Cyfeiriad:

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

E-bost: PwyllgorIGC@cymru.gov.uk

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/03/2013

Dogfennau

Ymgynghoriadau