Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd

Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd

Cefndir

 

Llun o hob nwy

 

Ym mis Hydref 2021, amcangyfrifir bod 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn dlawd o ran tanwydd, gyda 153,000 arall mewn perygl o dlodi tanwydd.

 

Yng ngoleuni hyn cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymchwiliad byr i dlodi tanwydd a Rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, cyn i'r rhaglen newydd ddechrau yn 2023.

 

Cylch gorchwyl

 

Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad oedd ystyried:

  • Beth yw'r prif wersi a ddysgwyd o Raglen Cartrefi Clyd bresennol Llywodraeth Cymru?
  • Sut y gall y gwersi hyn helpu i lywio'r fersiwn nesaf o'r Rhaglen Cartrefi Clyd er mwyn sicrhau ei bod yn rhoi gwell cefnogaeth i’r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd, neu mewn perygl o hynny? Yn benodol:
    • beth ddylai'r meini prawf cymhwysedd fod ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref, 
    • a ddylai’r dull sy'n seiliedig ar ardal, o fynd i'r afael â thlodi tanwydd (Arbed), barhau,
    • pa gymorth penodol y dylid ei ddarparu i ymateb i'r heriau sy'n gysylltiedig â thlodi tanwydd gwledig?
    • sut y gellir annog landlordiaid y sector preifat i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ymhlith tenantiaid?
    • sut y gall unrhyw gynllun(iau) olynol wella ar yr ystyriaethau cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol?
  • Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod y fersiwn nesaf o'r Rhaglen Cartrefi Clyd yn cyd-fynd yn well â'i hymdrechion i ddatgarboneiddio tai Cymru?

 

Casglu tystiolaeth

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad a chafwyd pedwar ar ddeg o ymatebion. Hefyd, cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys melinau trafod, elusennau ac arbenigwyr yn y diwydiant ar y dyddiadau a ganlyn:

Cynhaliwyd cyfres o gyfweliadau un-i-un gyda thenantiaid cymdeithasol a phreifat, landlordiaid preifat a pherchnogion-deiliaid oedd â phrofiad o’r Rhaglen Cartrefi Clyd neu oedd mewn tlodi tanwydd, neu’n wynebu’r risg hwnnw. Cyhoeddwyd crynodeb o’r canfyddiadau ym mis Mawrth 2022. Gwyliwch Jon a Michelle a rannodd eu profiadau o effaith tlodi tanwydd fel rhan o’r ymchwiliad.

 

Adrodd

Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad ddydd Mercher, 18 Mai 2022.

 

Wrth ei gyhoeddi, rhyddhaodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor, ddatganiad i’r cyfryngau a dywedodd:

 

“Mae tlodi tanwydd bellach yn argyfwng cenedlaethol ac mae prisiau ynni uchel, yn enwedig o ran nwy, yn parhau i godi.  Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch helpu pobl mewn tlodi tanwydd y gaeaf hwn, mae angen iddi fabwysiadu mesurau brys i wella cynhesrwydd cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n wael na all teuluoedd fforddio eu gwresogi." Darllenwch y datganiad i’r cyfryngau yn llawn.

 

Ymateb y Llywodraeth

 

Derbyniodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 7 Gorffennaf 2022.

 

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Medi 2022.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/12/2021

Dogfennau

Ymgynghoriadau