Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru
Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru
Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar
Wasanaethau Mamolaeth ym m is Mehefin 2009. Canfu’r adroddiad, yn gyffredinol,
bod y mwyafrif o fenywod yn fodlon â’r gwasanaethau mamolaeth a gawsant. Fodd
bynnag, nododd bryderon am gysondeb y gwasanaethau mamolaeth a ddarperir ledled
Cymru, a chanfu nad oedd gwybodaeth am berfformiad na gwybodaeth ariannol yn
gyffredinol yn cael ei gasglu na’i ddefnyddio’n dda.
Ym mis Chwefror 2010 cyhoeddodd Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus y trydydd Cynulliad (2007-2011) adroddiad interim ar
Wasanaethau Mamolaeth. Roedd adroddiad y Pwyllgor hwnnw’n amlygu nifer o
feysydd ble’r oedd angen gwneud rhagor i wella’r gwasanaethau mamolaeth a
ddarparwyd.
Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru y wybodaeth ddiweddaraf
am Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru i Bwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus y pedwerydd Cynulliad ym mis Mehefin 2012, ac o
ganlyniad, cytunodd y Pwyllgor i gynnal gwaith pellach yn y maes hwn. Yn
benodol, edrychodd y Pwyllgor yn fanwl ar feysydd ble y nodwyd gwelliannau ar
eu cyfer, a gofynnodd am sicrwydd y byddai gwelliannau’n cael eu gweithredu.
Math o fusnes:
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/02/2014
Dogfennau