Craffu ar waith Trafnidiaeth Cymru
Craffu ar waith Trafnidiaeth Cymru
Inquiry4
Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd
a Seilwaith (“y Pwyllgor”) yn gwneud gwaith craffu o bryd i’w gilydd ar
waith Trafnidiaeth Cymru yn ystod y Chweched Senedd.
Craffu ar
waith Trafnidiaeth Cymru 2023-24
Cynhaliodd y
Pwyllgor ei sesiwn graffu flynyddol ail ar waith Trafnidiaeth Cymru yn ei
gyfarfod ar ddydd
Mercher 22 Tachwedd 2023. Cyflwynodd Trafnidiaeth Cymru dystiolaeth
ysgrifenedig i helpu i lywio’r sesiwn graffu a gwybodaeth
ychwanegol ar 5 Mawrth 2024.
Adroddiad
Cyhoeddodd y
Pwyllgor ei adroddiad: Adroddiad ar
wasanaethau rheilffyrdd a pherfformiad Trafnidiaeth Cymru 2023-24 (PDF 264KB),
ar 3 Mai 2024.
Craffu ar
waith Trafnidiaeth Cymru - 2022
Cynhaliodd y
Pwyllgor ei sesiwn graffu flynyddol gyntaf ar waith Trafnidiaeth Cymru yn ei
gyfarfod ar ddydd
Iau 17 Mawrth 2022. Bu’r sesiwn hon yn ymdrin â'r canlynol:
·
Craffu
cyffredinol ar lywodraethu a datblygiad Trafnidiaeth Cymru; a
·
Thystiolaeth
gan Trafnidiaeth Cymru ar gyfer gwaith y Pwyllgor ar adfer trafnidiaeth
gyhoeddus ar ôl covid.
Cyflwynodd
Trafnidiaeth Cymru dystiolaeth
ysgrifenedig i helpu i lywio’r sesiwn graffu.
Adroddiad:
Cyhoeddodd y
Pwyllgor ei adroddiad, Dyfodol bysiau a
threnau yng Nghymru (PDF 3.4MB) ar 6 Hydref 2022. Mae'r adroddiad mewn dwy
ran:
Rhan 1 – Craffu
ar waith Trafnidiaeth Cymru
Rhan 2 – Dyfodol gwasanaethau bysiau a threnau
ar ôl Covid
Ymatebodd
Llywodraeth Cymru (PDF 234KB) i adroddiad y Pwyllgor ar 16 Rhagfyr 2022.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/03/2022
Dogfennau