Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch
Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch
Inquiry5
Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i Gymorth
Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch.
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad
ysgrifenedig (PDF 3.1MB) ar 29 Mawrth 2023.
Ar 26 Mai cafodd y Pwyllgor ymateb
(PDF 266KB) i'r adroddiad gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd
Mercher 14 Mehefin 2023.
Cefndir yr ymchwiliad
Codwyd mater iechyd meddwl
mewn addysg uwch gan nifer o randdeiliaid fel rhan o ymgynghoriad y Pwyllgor
i’r blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd. Roedd hefyd yn fater a ystyriwyd
fel rhan o waith craffu'r Pwyllgor ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil
(Cymru), a nododd y Pwyllgor eu bwriad i ailedrych ar y mater. Yn ei gyfarfod
ar 29 Mawrth 2022, cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad yn edrych ar
effeithiolrwydd y cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles myfyrwyr; yn ogystal ag
effeithiau parhaus y pandemig a newidiadau i arferion addysgu a dysgu.
Cylch Gorchwyl
>>>>
Maint yr angen
>>>Y sefyllfa bresennol o ran
iechyd meddwl myfyrwyr mewn addysg uwch, ac unrhyw heriau penodol maent yn eu
hwynebu o ran eu hiechyd meddwl a'u gallu i gael cymorth.
>>>A oes heriau gwahanol o ran
iechyd meddwl ar gyfer gwahanol grwpiau o fyfyrwyr, ac a oes unrhyw grwpiau o
fyfyrwyr mewn addysg uwch y mae iechyd meddwl gwael yn effeithio'n anghymesur
arnynt.
>>>Yr effaith, os o gwbl, a gafodd COVID-19 yn gyffredinol ar
iechyd meddwl a lles myfyrwyr ac effaith y pandemig ar y lefelau a'r math o
gymorth a ddarperir gan y sector addysg uwch.
Adnabod a darpariaeth
>>>Pa mor effeithiol yw darparwyr addysg uwch wrth hyrwyddo
ethos o iechyd meddwl, a llesiant da cyffredinol i bob myfyriwr, ac a yw hyn yn
rhan annatod o'r profiad dysgu ac o ryngweithio â staff.
>>>Pa mor effeithiol yw’r sector o ran sicrhau bod myfyrwyr yn
cael eu hadnabod yn gynnar os oes arnynt angen cymorth unigol wedi’i dargedu.
>>>Pa
mor effeithiol y mae'r sector addysg uwch a'r GIG yn gweithio gyda'i gilydd i
roi’r cymorth iechyd meddwl cywir i fyfyrwyr unigol ar yr adeg ac yn y lleoliad
y mae ei angen arnynt.
>>>A
oes problemau penodol o ran mynediad at gymorth iechyd meddwl y GIG, er
enghraifft effaith newid meddygon teulu yn amlach; bod llawer o fyfyrwyr ar
oedran lle maent yn trosglwyddo o wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc
i wasanaethau iechyd meddwl oedolion; unrhyw broblemau o ran rhannu data.
>>>Pa
mor effeithiol yw gwaith y sector addysg ôl-16 yn fwy eang i hybu iechyd meddwl
da, yn enwedig o ran pontio.
Polisïau, deddfwriaeth a
chyllid Llywodraeth Cymru
>>>Pa mor effeithiol y mae
trefniadau polisi, ariannu a rheoleiddio Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector yn
cefnogi iechyd meddwl myfyrwyr mewn addysg uwch, ac a oes mwy y gallai
Llywodraeth Cymru ei wneud.
>>>Yng nghyd-destun y Bil Addysg
Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), sut olwg fyddai ar ddull system gyfan o ymdrin ag
iechyd meddwl a llesiant mewn addysg ôl-16, a beth fyddai rôl darparwyr addysg
uwch a gofal iechyd.
>>>Sut y dylai'r Comisiwn Addysg
Drydyddol ac Ymchwil newydd ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr mewn
addysg uwch, ac yn y sector addysg drydyddol yn fwy eang.
Argymhellion ar gyfer newid
>>>A oes unrhyw
argymhellion y dylai'r Pwyllgor eu gwneud.
<<<
Casglu tystiolaeth
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar ym mis Medi
2022. Mae rhagor o wybodaeth am sesiynau tystiolaeth unigol ar gael o dan y tab
cyfarfodydd ar frig y dudalen.
Ar ddechrau mis Medi, lansiwyd arolwg wedi’i anelu
at fyfyrwyr a graddedigion diweddar o Gymru i gyflwyno eu barn. Daeth 254 o
ymatebion i law, ac mae crynodeb o’r ymatebion wedi’i gyhoeddi
(PDF 1MB).
Yn nhymor yr hydref, cynhaliwyd grwpiau ffocws i
drafod yr ymchwiliad yn fanwl gyda myfyrwyr. Fel rhan o'r gwaith ymgysylltu
hwn, cawsom wybod am brofiadau myfyrwyr presennol a diweddar o gymorth lles; y
prif heriau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu; effaith iechyd meddwl ar eu profiadau
dysgu a phrofiadau addysg uwch; a pha welliannau yr hoffent eu gweld. Cyhoeddwyd
(PDF 258KB) crynodeb o'r trafodaethau.
Ymgynghoriad
Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth
ysgrifenedig ar 12 Gorffennaf 2022. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 07 Tachwedd
2022. Mae'r holl ymatebion wedi'u cyhoeddi.
Cymorth
Mae’r arolwg hwn yn ymwneud â
phwnc sensitif. Os hoffech gael cymorth ar ôl llenwi’r arolwg, rydym yn
argymell y dylech gysylltu â’r elusennau canlynol:
Childline: 0800 1111
Meic Cymru: 0808 80 23456
Mind Cymru: 0300 123 33 93 neu info@mind.org.uk
Hafal : 01792 816 600/832 400 neu e-bostiwch hafal@hafal.org
Beat Cymru: 0808 801 0433
Llinell Wrando a Chyngor Cymunedol (CALL): 0800 13 27 37 neu tecstiwch ‘help’ i
81066
Samariaid: 116 123
Bydd yr elusennau hyn yn rhoi’r cyfle i chi
siarad ag oedolyn y gallwch ymddiried ynddo.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/07/2022
Dogfennau
- Llythyr ar y cyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant - 8 Chwefror 2024 PDF 551 KB
- Llythyr ar y cyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant - 20 Rhagfyr 2023 PDF 199 KB
- Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 16 Hydref 2023 PDF 196 KB
- Llythyr gan Lywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Saesneg yn unig) - 24 Gorffennaf 2023 PDF 225 KB
- Llythyr gan Brif Swyddog Gweithredu Prifysgol De Cymru (Saesneg yn unig) - 18 Gorffennaf 2023 PDF 474 KB Gweld fel HTML (5) 12 KB
- Llythyr gan Gyfarwyddwr Dros Dro Y Brifysgol Agored yng Nghymru (Saesneg yn unig) - 10 Gorffennaf 2023 PDF 60 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Brifysgolion Cymru - 7 Gorffennaf 2023 PDF 168 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 6 Gorffennaf 2023 PDF 224 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Gymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch - 26 Mai 2023 PDF 266 KB
- Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant - 23 Mai 2023 PDF 213 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant - 31 Mawrth 2023 PDF 129 KB
- Canfyddiadau'r rhaglen ymgysylltu - Rhagfyr 2022 PDF 258 KB
- Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn dilyn y cyfarfod ar 23 Tachwedd - 21 Mawrth 2023 PDF 202 KB
- Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - 28 Tachwedd 2022 PDF 150 KB
- Canfyddiadau’r arolwg - Tachwedd 2022 PDF 1 MB
Ymgynghoriadau
- Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch (Wedi ei gyflawni)