Effaith costau cynyddol

Effaith costau cynyddol

Inquiry5

Yn ei gyfarfod ar xx MIS 2022, cytunodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i gynnal ymchwiliad i effaith costau cynyddol ar y sectorau o fewn ei bortffolio. Nod y gwaith hwn oedd trafod yr effeithiau posibl a pha gymorth oedd ei angen ar y sectorau perthnasol cyn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad, sef “Costau Cynyddol: Yr Effaith ar Ddiwylliant a

 

Chwaraeon,”  ar 25 Tachwedd 2022. Ar 18 Ionawr 2023, gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb i’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad.

 

Cafodd dadl ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn ar 25 Ionawr 2023: “Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Costau cynyddol: Yr effaith ar ddiwylliant a Chwaraeon

 

NEWYDDION: Mae angen cymorth ar frys ar leoliadau diwylliant a chwaraeon yn ystod yr argyfwng costau byw

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/09/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau