Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol
Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol
Inquiry4
Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi
cyhoeddi ei adroddiad
ar Amrywiaeth ym Maes Llywodraeth Leol ar 17 Hydref 2023. (PDF 684KB)
Mae Llywodraeth
Cymru wedi ymateb
i’r adroddiad. (PDF 157KB)
Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi
cytuno i gynnal ymchwiliad i Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol.
Nod yr ymchwiliad
fydd:
>>>>
>>>
Asesu cynnydd tuag at wella amrywiaeth mewn llywodraeth leol ers pasio Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac unrhyw effaith bendant ar
ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiad.
>>>
Ystyried y cynnydd wrth weithredu'r argymhellion yn adroddiad 2019 y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar amrywiaeth mewn llywodraeth
leol.
>>>
Ymchwilio i waith ymchwil a dadansoddi a gaiff ei wneud gan Lywodraeth Cymru,
cyrff partner ac eraill ar amrywiaeth ymgeiswyr a chanlyniadau yn dilyn
etholiadau lleol 2022.
>>>
Archwilio cynlluniau a sefydlwyd i hyrwyddo a galluogi mwy o amrywiaeth ymhlith
y rhai sy'n sefyll mewn etholiad, gan gynnwys y Gronfa Mynediad i Swyddi
Etholedig.
>>>
Ymchwilio i feysydd arloesedd ac arfer da a allai helpu i gynyddu amrywiaeth
mewn llywodraeth leol.
<<<<
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/08/2023
Dogfennau
Papurau cefndir
Ymgynghoriadau
- Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol (Wedi ei gyflawni)