Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion

Cafodd y Bil Dioddefwyr a Charcharorion (y Bil) ei gyflwyno yn Nhŷr Cyffredin ar 29 Mawrth 2023.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai diben y Bil yw gwneud darpariaeth ynghylch dioddefwyr ymddygiad troseddol ac eraill y mae ymddygiad troseddol yn effeithio arnynt; ynghylch penodi unigolion i weithredu fel eiriolwyr cyhoeddus ar gyfer dioddefwyr digwyddiadau mawr, a’u swyddogaethau; ynghylch rhyddhau carcharorion; ynghylch aelodaeth a swyddogaethau’r Bwrdd Parôl; i wahardd carcharorion penodol rhag priodi neu ffurfio partneriaeth sifil; ac at ddibenion cysylltiedig.

 

Mae’r Bil yn ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Cynhaliwyd pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Mai 2024 mewn perthynas â: chymal 16 ynghylch cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant pan fo un rhiant yn lladd y llall; cymal 17 ynghylch marwolaeth  yn deillio o gam-drin domestig; a Rhan 3 a'r Atodlen gysylltiedig sy'n ymwneud ag iawndal i ddioddefwyr y sgandal gwaed heintiedig. Derbyniwyd y cynnig.

 

Cynhaliwyd pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Mai 2024 mewn perthynas â: chymalau 1 i 4, 11, 26 a 27 ynghylch dioddefwyr ymddygiad troseddol a chod dioddefwyr; cymal 15 ynghylch canllawiau ar rolau cymorth dioddefwyr penodedig; a chymalau 28 i 33 a 35 i 39 ynghylch dioddefwyr digwyddiadau mawr. Ni dderbyniwyd y cynnig.

 

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Ebrill 2024

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 223KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 30 Ebrill 2024.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Ebrill 2024

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 268KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 15 Ebrill 2024.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 29 Ebrill 2024 (PDF 66KB).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (209KB) ar 29 Ebrill 2024.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei adroddiad (168KB) ar 30 Ebrill 2024.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mai 2023

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 195KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 19 Mai 2023.


Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 14 Gorffennaf 2023 (PDF 66.7KB).

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (154KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Dioddefwyr a Charcharorion ar 3 Gorffennaf 2023. Ymatebodd (PDF 219KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 11 Awst 2023.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Dioddefwyr a Charcharorion ar 13 Gorffennaf 2023.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/05/2023