Llywodraethiant y DU a’r UE
Llywodraethiant y DU a’r UE
Mae’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn cynnal ymchwiliad i
lywodraethu rhwng y DU a’r UE.
Mae’r cytundebau
rhwng y DU a’r UE yn sefydlu strwythurau llywodraethu newydd cymhleth ar
gyfer rheoli cysylltiadau a chytundebau rhwng y DU a’r UE ar ôl Brexit. Wrth
i’r strwythurau llywodraethu hyn ddechrau gweithredu’n ymarferol, mae problemau
a heriau cyffredin wedi dod i’r amlwg i seneddau yn y DU sydd â’r dasg o graffu
arnynt.
Mae rôl a safle
llywodraethau a deddfwrfeydd datganoledig yn y strwythurau hyn hefyd yn parhau
i fod yn aneglur.
Yn ei dystiolaeth
i Bwyllgor Materion Ewropeaidd Tŷ’r Arglwyddi, daeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i’r
casgliad a ganlyn ar sail y wybodaeth gychwynnol y bu modd iddo ei chasglu:
“The role of the
devolved nations in UK-EU structures is not yet clear and the transparency of
these structures and the intergovernmental work related to UK-EU relationships
needs urgent improvement.”
Mae’r Pwyllgor yn
cynnal ymchwiliad byr i ychwanegu at ei ganfyddiadau cychwynnol ac i archwilio
ei gasgliadau gydag arbenigwyr, rhanddeiliaid, seneddau, llywodraethau a
sefydliadau yng Nghymru, y DU a’r UE.
Yn benodol, bydd
yr ymchwiliad yn ystyried y canlynol:
>>>>
>>>Strwythur
sefydliadol a threfniadau ar gyfer llywodraethu cytundebau rhwng y DU a’r UE a
sut mae’r rhain wedi datblygu’n ymarferol;
>>>Rôl y
llywodraethau datganoledig yn strwythur sefydliadol a threfniadau
llywodraethu’r cytundebau rhwng y DU a’r UE eu hunain a threfniadau
rhynglywodraethol y DU sydd ar waith i gefnogi gwaith ymgysylltu;
>>>Rôl
deddfwrfeydd y DU ac yn enwedig deddfwrfeydd datganoledig o ran goruchwylio’r
broses o wneud penderfyniadau a chraffu ar weithrediad y cytundebau;
>>>Rôl
cymdeithas sifil yng ngweithrediad y cytundebau ac yn arbennig rôl y Fforwm
Cymdeithas Sifil a Grwpiau Cynghori Domestig o dan y Cytundeb Masnach a
Chydweithredu;
>>>Tryloywder
ac atebolrwydd y strwythurau llywodraethu newydd hyn rhwng y DU a’r UE.
<<<<
Casglu tystiolaeth
Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar ar y dyddiadau a
ganlyn:
Dyddiad ac agenda |
Panel |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
Yr Athro Catherine Barnard,
Prifysgol Caergrawnt Yr Athro Simon Usherwood, Y
Brifysgol Agored |
|||
Charles Whitmore, Fforwm
Cymdeithas Sifil Cymru Tom Jones, cynrychiolydd
Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Fforwm Cymdeithas Sifil y DU-UE Brigid Fowler, Cymdeithas
Hansard |
|||
Yr Athro Tobias Lock,
Prifysgol Maynooth Dr Lisa Whitten, Prifysgol
Queen’s Belfast Dr Elin Royles, Prifysgol
Aberystwyth |
Cafodd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig isod:
Papur
gan Charles Whitmore, 2021 [Saesneg yn unig]
Ymateb
ysgrifenedig gan yr Athro David Phinnemore a Dr Lisa Whitten, Mehefin 2023
[Saesneg yn unig]
Ymateb
ysgrifenedig gan Dr Elin Royles, Mehefin 2023 [Saesneg yn unig]
Ymateb
ysgrifenedig gan yr Athro Tobias Lock, Mehefin 2023 [Saesneg yn unig]
Ymateb
ysgrifenedig gan Tanja Buzek, Gorffennaf 2023 [Saesneg yn unig]
Ymateb
ysgrifenedig gan Cillian Lohan, Gorffennaf 2023 [Saesneg yn unig]
Ymateb
ysgrifenedig gan Charles Whitmore, Awst 2023 [Saesneg yn unig]
Ymateb
ysgrifenedig gan Loïg Chesnais-Girard, Medi 2023 [Saesneg yn unig]
Ymwelodd y Pwyllgor â Brwsel ar 5-7 Medi 2023. Yn
dilyn yr ymweliad hwn, cyhoeddodd y Pwyllgor grynodeb
o’r themâu allweddol a gododd o’r ymweliad.
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF
2,514KB) ar 27 Tachwedd 2023. Ymatebodd
Comisiwn y Senedd i'r adroddiad ar 6 Chwefror 2024. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru ar 14 Chwefror 2024.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/05/2023