Oriel gelf gyfoes genedlaethol

Oriel gelf gyfoes genedlaethol

Bydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal ymchwiliad byr i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer oriel gelf gyfoes genedlaethol. Bydd yn ystyried y canlynol:

>>>> 

>>>y modd y cyflawnir cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer oriel gelf gyfoes genedlaethol;

>>>rhinweddau’r model a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru (8-10 o safleoedd rhanbarthol a hyb angori);

>>>mynediad digidol at gelf gyfoes.

<<< 

 

Y cefndir

Cafodd astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer oriel gelf gyfoes genedlaethol ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn 2018. Roedd yn cynnig “model cenedlaethol deinamig ar wasgar sy’n adeiladu ar 6 i 8 lleoliad celfyddydol sy’n bodoli eisoes ac sydd wrthi’n datblygu ledled Cymru, ynghyd â chanolbwynt canolog parhaol.”

 

Dyma a ddywedodd Llywodraeth Cymru yn ei thystiolaeth ar gyfer cyllideb ddrafft 2023-24:

 

“Mae sefydlu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol yn flaenoriaeth yn y Cytundeb Cydweithio. Awgrymodd yr astudiaeth ddichonoldeb a gynhaliwyd gan y Swyddfa Wledig dros Bensaernïaeth mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru mai model gwasgaredig gyda 8-10 o safleoedd sy’n cynnig mynediad lleol i gasgliadau pwrpasol neu deithiol fyddai’r model darparu a ffefrir ar gyfer yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol.

 

Rydym wedi neilltuo cyfanswm o £1.939m ers 2019-20 gan gynnwys costau digideiddio. Mae cyllid ar gyfer 23/24 yn amodol ar yr achos busnes amlinellol sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd.

 

Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud o ran datblygu nifer o elfennau yn y model. Mae gwaith i ddigideiddio'r casgliad a ddelir gan Amgueddfa Cymru yn mynd rhagddo'n dda a disgwylir i'r broses ddigideiddio gael ei chwblhau yn 2022/23. Mae’r asedau digidol hyn wedi cael eu defnyddio mewn nifer o ffyrdd arloesol yn ystod y pandemig i gynyddu mynediad i’r casgliad, er enghraifft erthyglau ar-lein a gwefan gyfranogol lle y gall pobl guradu ‘y 100 gorau’ o blith y casgliadau a lle y gall staff y GIG ddewis eitemau i’w hatgynhyrchu ar fformatau mawr i'w harddangos mewn ysbytai maes a chanolfannau brechu. Mae gwefan newydd yn cael ei datblygu er mwyn i safleoedd sy'n cymryd rhan yn y cynllun greu eu casgliadau eu hunain.

 

Bydd y model gwasgaredig yn sicrhau bod y casgliad cenedlaethol a chelf gyfoes yn fwy hygyrch i gymunedau ledled Cymru, gan ddod â chelf yn agosach i bobl ym mhob rhan o Gymru. Mae trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt â sawl oriel er mwyn ystyried y posibilrwydd o'u cynnwys yn y model gwasgaredig.

 

Fodd bynnag, bydd angen gwneud rhagor o waith asesu gydag unrhyw orielau posibl o'r fath er mwyn deall y costau a'r cyfyngiadau yn llawn cyn y cytunir ar restr derfynol o orielau a fydd yn cymryd rhan yn y cynllun.

 

Rydym yn ystyried posibiliadau ar gyfer safle angori. Anfonwyd cais i ddarparu safleoedd i reolwyr ystadau yn y sector cyhoeddus. Cafodd lleoliadau ar y rhestr fer eu hysbysu'n ddiweddar a gofynnwyd iddynt ddatblygu eu cynigion.”

 

Rhoddwyd rhagor o wybodaeth mewn datganiad ysgrifenedig ar 12 Mai, a oedd yn nodi:

 

“Ers fy niweddariad diwethaf i'r Aelodau, bu nifer o ddatblygiadau pellach o ran dyluniad y model. Bydd ganddo dair nodwedd benodol, gyda chefnogaeth oriel ar-lein:

 

1. Bydd rhwydwaith o orielau ledled Cymru yn darparu mynediad am ddim i'r casgliad cenedlaethol ac yn dod â chelf gyfoes yn nes at gymunedau.

 

2. Bydd orielau lletya sy’n lletya’r casgliad cenedlaethol o gelf Cymru.

 

3. Bydd oriel angor yn darparu wyneb cyhoeddus amlwg i'r oriel gelf gyfoes genedlaethol.”

 

Nododd hefyd:

 

“Mae naw lleoliad wedi cyrraedd y rhestr fer fel aelodau o'r rhwydwaith o orielau lle gall pobl weld y casgliad cenedlaethol yn agos at eu cartrefi. Mae pob un o'r lleoliadau yn cael eu hasesu’n fanylach.

 

Dyma’r lleoliadau:

>>>> 

>>>Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

>>>Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe

>>>MOSTYN, Llandudno

>>>Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd

>>>Oriel Davies, y Drenewydd

>>>Oriel Myrddin, Caerfyrddin

>>>Plas Glyn-y-Weddw, Pwllheli

>>>Canolfan Grefft Rhuthun

>>>STORIEL, Bangor

<<< 

 

Yr orielau lletya yw’r rheini sydd naill ai'n lletya’r casgliad cenedlaethol ar hyn o bryd neu'n bwriadu ei letya ac sy'n rhan o’r seilwaith presennol yng Nghymru. Yn eu plith mae safleoedd Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd ac o bosibl yn Llanberis a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn Aberystwyth. Bydd eu cynnwys yn cynyddu mynediad pellach at gelf gyfoes o Gymru.

 

Ym mis Medi 2022, cawsom gyfanswm o 14 o ddatganiadau o ddiddordeb gan y sector cyhoeddus i fod yn safle angor i'r Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol. Gwahoddwyd pum ardal awdurdod lleol – Wrecsam, Abertawe, Merthyr Tudful, Casnewydd a Chaerdydd – i ddatblygu eu cynlluniau ymhellach. Byddwn yn cael y cynlluniau manylach yn ddiweddarach y mis hwn.

 

Ym mis Chwefror 2023, gwahoddwyd y trydydd sector hefyd i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb ar gyfer unrhyw safleoedd sy'n cyd-fynd â'r meini prawf ar gyfer yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol. Cyflwynwyd dau ddatganiad o ddiddordeb a bydd y rhain nawr yn cael eu hasesu.”

 

Ym mis Mawrth 2023, hysbysebodd Cyngor y Celfyddydau swydd Cyfarwyddwr Prosiect yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol, ynghyd â Chadeirydd Annibynnol i arwain Bwrdd y Prosiect.

 

Yn 2008, cynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Oriel Gelf Genedlaethol i Gymru ac astudiaeth opsiynau am Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Celf Gyfoes. Fel rhan o’r astudiaethau, gwnaed argymhellion i leoli'r Oriel Gelf Genedlaethol ar safle wedi’i addasu ym Mharc Cathays ac i leoli Canolfan Genedlaethol ar gyfer Celf Gyfoes mewn gofod bocs gwyn ar lan yr afon yng Nghasnewydd neu yn Abertawe, ond ni chafodd yr argymhellion hyn eu datblygu ymhellach.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/06/2023

Dogfennau