Ymchwiliad i’r gwaith o weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i ddatblygiad yn y dyfodol

Ymchwiliad i’r gwaith o weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i ddatblygiad yn y dyfodol

Ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y dyfodol yn ystod 2012/13.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd archwilio’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru o fewn y byrddau iechyd lleol a pha mor ddigonol ac effeithiol ydyw o ran atal a thrin diabetes yng Nghymru.

 

Trafododd y Pwyllgor hefyd y camau gweithredu posibl y bydd eu hangen yn y dyfodol i lywio’r agenda hon.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y pwnc hwn.

 

Adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF, 837KB) ym mis Mehefin 2013. Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF, 208KB) ym mis Hydref 2013. Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Hydref 2013.

 

Gwaith dilynol y Pwyllgor

Yn haf 2014, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am adroddiad diweddaru gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu argymhellion y Pwyllgor. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Medi 2014.

 

Mae diweddariad y Gweinidog (PDF, 334KB) yn pwysleisio bod llawer o argymhellion y Pwyllgor yn cael eu gweithredu drwy’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes. Yn sgil yr ymateb hwn, cytunodd y Pwyllgor i ohirio penderfyniad ar p’un a ddylid ymgymryd ag unrhyw waith dilynol yn y dyfodol tan ar ôl cyhoeddi’r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes. Deallir y caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ddiwedd 2014.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/07/2012

Dogfennau

Ymgynghoriadau