P-04-408: Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

P-04-408: Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Wedi'i gwblhau

P-04-408 : Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ariannu’r Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru i’r un graddau â’r Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Oedolion yng Nghymru.

Daeth i’m sylw bod symiau gwahanol o arian yn cael eu rhoi i Wasanaethau i Oedolion a Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc ar gyfer ymdrin ag anhwylder bwyta. Ar hyn o bryd, mae’r Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Oedolion yn cael £1 filiwn y flwyddyn gan Gynulliad Cymru, yn ogystal â phedwar grŵp darparu a hyfforddwyd gan arbenigwyr. Yn anffodus, mae gwaith ymchwil yn nodir ffaith bod pobl yn fwyaf tebygol o gael eu profiad cyntaf o anhwylder bwyta, yn enwedig Anorecsia Nerfosa, yn ystod eu glaslencyndod. Yn hanesyddol, roedd pobl yn cyrraedd glaslencyndod pan oeddent rhwng 12 a 15 oed. Fodd bynnag, bellach, mae hyn yn digwydd pan fydd pobl yn llawer iau ac felly mae’r ystadegau’n dechrau dangos bod mwy o blant iau yn dioddef o Anorecsia Nerfosa. Bydd pobl fel arfer yn dechrau dioddef o Fwlimia Nerfosa pan fyddant rhwng 18 a 25 oed. Fodd bynnag, fel gydag Anorecsia, gall hyn amrywio o berson i berson.  Mae’r ffaith mai cymryd camau buan yw’r allwedd i sicrhau gwellhad cyflym mewn perthynas â’r ddau anhwylder, ac, yn ddiau, pob anhwylder bwyta y gellir ei ddiagnosio, sy’n atal goblygiadau ariannol hirdymor i’r Llywodraeth, yn gwneud y cais hwn yn fwy perthnasol. Felly, rwy’n ymbil ar y Cynulliad i ystyried hyn yn flaenoriaeth ar gyfer dadl i gael gwared ar y gwahaniaeth hwn drwy roi’r un swm o arian i’r Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Nghymru ag a roddir i’r Gwasanaeth i oedolion.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/02/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru a chytunodd i gau’r ddwy ddeiseb o ystyried bod adolygiad annibynnol manwl o wasanaethau anhwylderau bwyta wedi’i gynnal a bod Llywodraeth Cymru yn craffu ar ymatebion y byrddau iechyd i argymhellion yr adolygiad, ynghyd â darparu adnoddau ychwanegol ei hun.  Cytunodd y Pwyllgor hefyd i longyfarch y deisebydd ar ei waith yn cyflawni gwelliannau o ran gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/07/2012.

Cyflwynwyd y ddeiseb gan:  Helen Missen

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  17 Gorffennaf 2012

Nifer y llofnodion: . 246

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/02/2020

Angen Penderfyniad: 11 Awst 2012 Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad