Craffu ar Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Llywodraeth Cymru
Craffu ar Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Llywodraeth Cymru
Roedd Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru
yn gronfa ecwiti bwrpasol a gynhaliwyd rhwng 2012 a 2023 gyda gwerth
buddsoddiad targed cychwynnol hyd at £100 miliwn. Cyhoeddwyd bod y Gronfa’n cau
mewn datganiad ysgrifenedig ar 12 Gorffennaf 2023 gan Weinidog yr Economi, gyda
£21.1 miliwn yn cael ei ddileu gan Fanc Datblygu Cymru. Cytunodd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i archwilio cau’r gronfa gyda
Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth
gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru ar 27 Medi 2023, ac
wedi hynny ysgrifennodd
at swyddogion i ofyn am rhagor o wybodaeth yn dilyn y sesiwn. Cafodd y Pwyllgor
ymateb
ar 15 Ionawr 2024.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/10/2023
Dogfennau