Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyfiawnder Troseddol
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyfiawnder Troseddol
Cafodd y Fil Cyfiawnder Troseddol
(y Bil) ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ar 8 Tachwedd 2023.
Mae enw hir y Bil
yn nodi ei fod yn Fil i ddiwygio'r gyfraith droseddol; i wneud darpariaeth
ynghylch cyfiawnder troseddol (gan gynnwys pwerau a dyletswyddau'r heddlu) ac
ynghylch ymdrin â throseddwyr; i wneud darpariaeth ynghylch atafaelu a
defnyddio arian mewn cyfrifon wedi'u gohirio; i wneud darpariaeth arall
ynghylch atal a chanfod trosedd ac anhrefn; i wneud darpariaeth am gardota,
cysgu ar y stryd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol; i wneud darpariaeth am yr
heddlu; ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru
i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Ebrill 2024
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 212KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 2
Ebrill 2024.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno
erbyn 7 Mehefin
2024 (PDF 38KB).
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Ionawr 2024
Ar 29 Ionawr
2024, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 268KB).
Mae'r Pwyllgor Busnes
wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 22 Mawrth 2024
(PDF 27KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
222KB) ar 21 Mawrth 2024.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/01/2024
Dogfennau