Craffu ar Gyfrifon: Amgueddfa Cymru 2021-22
Craffu ar Gyfrifon: Amgueddfa Cymru 2021-22
Ym mis Hydref
2018, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Bumed Senedd waith
craffu ar adroddiad ariannol Amgueddfa Cymru ar gyfer 2017-18. Gwnaeth y
Pwyllgor saith
argymhelliad yn ei adroddiad, 'Craffu
ar Gyfrifon 2017-18’ ym mis Mawrth 2019 yn ymwneud yn benodol ag Amgueddfa
Cymru (Argymhellion
34 i 40). Ymatebodd
yr Amgueddfa i'r argymhellion.
Yn ei adroddiad
ar Adroddiad Ariannol Amgueddfa Cymru ar gyfer 2020-21 (Ionawr 2022), nododd
Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hwyr yn y broses archwilio, i bryderon gael eu
codi gydag archwilwyr ynghylch eglurder rolau a chyfrifoldebau priodol Bwrdd yr
Ymddiriedolwyr a'r Bwrdd Gweithredol. Oedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei
archwiliad a diweddarodd Amgueddfa Cymru ei Datganiad Llywodraethu Blynyddol i
gynnwys gwybodaeth am y mater. Nodwyd wedi hynny ym mis Mawrth 2022 fod
anghydfod rhwng uwch-dîm rheoli Amgueddfa Cymru a’i fwrdd o ymddiriedolwyr.
Ym mis Ionawr
2022, dywedodd
yr Ysgrifennydd Parhaol wrth y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus fod Amgueddfa Cymru
wedi nodi iddi ddymuno bod yn rhan o broses adolygiad wedi’i deilwra
Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddodd
Panel yr Adolygiad wedi’i Deilwra ei adroddiad terfynol ym mis Gorffennaf 2023.
Cytunodd y
Pwyllgor i graffu ar y Cyfrifon yn ogystal ag edrych ar y pryderon a fynegwyd
gan Archwilio Cymru, a’r rhai a geir yn adroddiad yr Adolygiad wedi’i Deilwra.
Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn
dystiolaeth gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ar 29 Tachwedd 2023 ac ysgrifennodd
atynt wedi hynny i fynd ar drywydd nifer o faterion. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru ar 6 Chwefror 2024.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/01/2024
Dogfennau
- Llythyr oddi wrth Gyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, y Trysorlys a Chyfansoddiad Llywodraeth Cymru at Gadeirydd y Pwllgor - 6 Chwefror 2024 PDF 246 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd i Lywodraeth Cymru - 8 Rhagfyr 2023 PDF 220 KB Gweld fel HTML (2) 35 KB
- Llythyr at y Cadeirydd gan Gyfreithwyr Darwin Gray - 28 Tachwedd 2023 (Saesneg yn unig) PDF 293 KB