P-06-1389 Cyflwyno terfyn cyflymder o 30mya ar y gefnffordd trwy bentrefi Eglwys-fach a Ffwrnais
P-06-1389 Cyflwyno terfyn cyflymder o 30mya ar y gefnffordd trwy bentrefi Eglwys-fach a Ffwrnais
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Catherine Ruth Stevenson, ar ôl casglu 419 o
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae llawer o ardaloedd preswyl yng Nghymru bellach yn elwa ar derfyn
cyflymder o 20mya, gyda rhesymeg gref gan Lywodraeth Cymru ar sail tystiolaeth.
Nid ydym yn teimlo ei bod yn ddiogel i’n pentrefi – Eglwys-fach a Ffwrnais –
barhau i ddioddef terfyn cyflymder o 40mya.
Rydym wedi bod yn ymgyrchu i wneud y pentrefi yn fwy diogel i gerddwyr ers
dros 30 o flynyddoedd, gyda dwy farwolaeth yn ystod y cyfnod hwnnw. Rydym am i
Lywodraeth Cymru adolygu’r terfynau cyflymder o 40mya drwy’r pentrefi i alluogi
trigolion i gerdded yn ddiogel ac i wella llesiant.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Saif y pentrefi ar yr A487. Nid oes palmant ar hyd y rhan fwyaf o’r ffordd,
felly mae’n rhaid i’n trigolion, gan gynnwys plant a phobl ifanc sy’n dal
bysiau ysgol, trigolion sy’n ymweld â chymdogion neu’n mynd i ddigwyddiadau, a
phentrefwyr hŷn sy’n dal y bws, i gyd gerdded ar yr A487 ei hun. Mewn rhai
mannau, nid oes digon o le ar y ffordd i ddau gar basio ei gilydd, felly mae'n
rhaid i fodurwyr arafu a dod i stop i osgoi’r cerddwyr hyn.
Mae sail resymegol Llywodraeth Cymru ar gyfer y terfyn cyflymder o 20mya
drwy ardaloedd preswyl fel a ganlyn: “Mae’r dystiolaeth ledled y byd yn glir
iawn - bydd gostwng cyflymder yn arbed gwrthdrawiadau, arbed bywydau a lleihau
anafiadau - gan helpu i wella ansawdd bywyd a gwneud ein strydoedd a’n
cymunedau lleol yn fwy diogel i bawb.”
O ystyried y dystiolaeth, teimlwn yn gryf iawn y dylai’r terfyn cyflymder
trwy bentrefi Eglwys-fach a Ffwrnais gael ei adolygu a'i ostwng o 40mya.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/01/2024