P-06-1398 To act to increase the effectiveness of Natural Resources Wales in halting pollution on the Teifi
P-06-1398 To act to increase the effectiveness of Natural Resources Wales in halting pollution on the Teifi
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Moira Williams, ar ôl casglu 1,321 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r
afon Teifi yn marw oherwydd lefelau llygredd.
Rydym yn galw ar y Senedd i gynyddu’r cyllid a roddir i Gyfoeth Naturiol Cymru
i’w alluogi i gyflawni ei rwymedigaethau mewn perthynas â monitro iechyd yr
afon a gorfodi gofynion cyfreithiol.
Rydym hefyd yn galw ar y Senedd i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei
ddwyn i gyfrif am ei berfformiad. Byddai hyn yn helpu i ddiogelu’r Teifi ar
gyfer cenedlaethau’r dyfodol, fel y cynigir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol 2015.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
lefelau llygredd yn y Teifi yn uchel. Mae niferoedd eogiaid, dyfrgwn a bywyd
dyfrol arall yn gostwng yn ddifrifol.
Mae’r Teifi yn Ardal Cadwraeth Arbennig sydd dan fygythiad oherwydd llygredd a
newid hinsawdd. Mae data a ddarparwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dangos bod
ansawdd dŵr isel yr afon yn golygu bod 78 y cant o’r cyrff dŵr yn y
dalgylch wedi’u categoreiddio’n ‘wael’ neu’n ‘gymedrol’ o dan yr Asesiad
Fframwaith Dŵr.
Yn yr un modd, mae rhannau helaeth o'r afon yn methu â chyrraedd lefelau targed
o ran ffosffadau ac mae astudiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dangos bod y
poblogaethau eog a lamprai mewn perygl o ddiflannu yn ystod y 15 mlynedd nesaf.
Mae newid hinsawdd wedi arwain at lefelau dŵr isel yn y gwanwyn a
thymheredd dŵr uwch, sydd wedyn wedi arwain at ordyfiant algâu a lefelau
ocsigen is yn y dŵr.
Yn 2022, bu 1,889 o ollyngiadau i’r afon drwy ollyngfeydd carthion cyfun a
barodd 14,079 o oriau, y chweched afon waethaf yng Nghymru a Lloegr o ran hyd y
gollyngiadau carthion.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyrain Caerfyrddin
a Dinefwr
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/04/2024