P-06-1400 Adnoddau Teg a Digonol ar gyfer Practisau Cyffredinol yng Nghymru
P-06-1400 Adnoddau Teg a Digonol ar gyfer Practisau Cyffredinol yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Lewis Williams, ar ôl casglu 21,620 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
practisau cyffredinol yng Nghymru dan straen sylweddol a chynyddol. Mae nifer y
meddygon teulu yn gostwng, mae'r galw yn cynyddu, ac mae practisau'n cael
trafferth recriwtio a chadw staff.
Mae practisau cyffredinol yn cael eu gorfodi i geisio ymdopi ag adnoddau
annigonol, llwyth gwaith anghynaliadwy, a gweithlu sydd o dan bwysau ledled
Cymru, gyda rhai meysydd mewn argyfwng.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae’r
diffyg capasiti a welir ar hyn o bryd yn deillio o broblemau hirsefydlog o ran
llwyth gwaith, y gweithlu, a llesiant, sy’n gysylltiedig â thanariannu cronig
ym maes gwasanaethau meddygol cyffredinol.
Mae ymgyrch gan BMA Cymru Wales, sef Achubwch ein Meddygfeydd, yn gofyn i
Lywodraeth Cymru ymrwymo i becyn achub ar gyfer practisau cyffredinol, a hynny
er mwyn sicrhau bod gan feddygon teulu a'u cleifion y cymorth sydd ei angen
arnynt.
Drwy roi munud o’ch amser i lofnodi’r ddeiseb hon, gallwch ategu ein galwadau
ar i Lywodraeth Cymru ddarparu pecyn achub ar gyfer practisau cyffredinol.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a
Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld
pob deiseb sydd ar agor
- Gweld
pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/04/2024