P-06-1407 Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu'r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya
P-06-1407 Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu'r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Mark Baker, ar ôl casglu 469,571 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Bydd
y gyfraith newydd ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya yn dod i rym ar 17 Medi,
a chyda hynny y gwelir diwedd ar gyfnod sosialaeth mewn grym yng Nghymru.
Mae
Llywodraeth Cymru yn honni bod ganddi dystiolaeth sy’n ategu’r ddadl bod
gostwng y terfyn cyflymder i 20mya YM MHOB MAN yn achub bywydau! Ac eto, rydym
yn gweld taflenni sydd ond yn honni y bydd hyn yn digwydd, ynghyd â sylwadau
gan feddygon sy’n gweld pobl sy’n dod i adrannau damweiniau ac achosion brys o
ganlyniad i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. NID yw hyn yn dystiolaeth. Daw’r
unig wir dystiolaeth o Belfast, ac mae'r dystiolaeth honno’n datgan NAD OES DIM
GWAHANIAETH o ran gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd!.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Yn
wir, gwnaeth un o'r pentrefi yn Sir Fynwy lle cafodd y drefn newydd ei threialu
roi’r gorau iddi gan ei bod yn troi’r ffyrdd yn draed moch llwyr! Mae Mark
Drakeford wedi honni bod y drefn newydd wedi bod yn llwyddiant yn Saint-y-brid,
ond bob tro dwi'n mynd yno, nid oes NEB yn gyrru ar gyflymder o 20mya.
Nid
yw Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu UNRHYW dystiolaeth argyhoeddiadol i
gefnogi'r honiadau ynghylch diogelwch. Adran newid hinsawdd Llywodraeth Cymru
sy'n hyrwyddo'r gyfraith newydd hon, NID iechyd a diogelwch.
NID
YDYCH WEDI GWRANDO ARNOM.
Rhoddwyd
Llywodraeth Cymru yn ei lle GAN BOBL CYMRU; ni yw eich pennaeth! Rydym yn mynnu
bod y syniad hurt hwn yn cael ei atal.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld
pob deiseb sydd ar agor
- Gweld
pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/04/2024