Bolisi dŵr yng Nghymru
Bolisi dŵr yng Nghymru
Mae Pwyllgor
Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal
ymchwiliad byr i bolisi dŵr yng
Nghymru.
Diben yr ymchwiliad oedd:
- Asesu goblygiadau'r Bil Dŵr drafft i Gymru, yn enwedig o ran
cystadleuaeth yn y farchnad annomestig.
- Asesu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â
materion fforddiadwyedd dŵr ar gyfer cartrefi.
Bu’r Pwyllgor yn ystyried:
- Pa effaith fydd y Bil Dŵr drafft yn ei chael ar gystadleuaeth yn
y farchnad annomestig yng Nghymru?
- A oes unrhyw faterion penodol a allai godi o gael cyfundrefnau
marchnad gwahanol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer cwsmeriaid annomestig, yn
enwedig mewn ardaloedd ar y ffin?
- Pa ddulliau sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i sicrhau
fforddiadwyedd dŵr yn y farchnad ddomestig?
- Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar ei ymrwymiadau a
nodir yn niweddariad y Rhaglen Lywodraethu (Mai 2012)?
- A ddylai'r Llywodraeth fod yn gwneud unrhyw beth arall i sicrhau
fforddiadwyedd dŵr yn y farchnad ddomestig?
- Gyda golwg benodol ar fforddiadwyedd a chystadleuaeth, beth ddylai
Llywodraeth Cymru ei gynnwys yn y Strategaeth Dŵr sydd ar y gweill?
Tystiolaeth fideo
Mae’r tîm
Allgymorth wedi cynhyrchu pecyn fideo sydd yn cynnwys cyfraniadau gan
fusnesau a sefydliadau yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus.
Pwrpas y fideo yw dangos beth yw cryfderau a
gwendidau’r system gyfredol ym marn busnesau ac aelodau o staff sy’n gweithio i
gyrff y sector cyhoeddus, ac i esbonio cryfderau a gwendidau posib y cynigion
hyn ar eu sefydliad.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/05/2013
Y Broses Ymgynghori
Bydd yr ymgynghoriad
cyhoeddus yn dod i ben ar 1 Mawrth 2013.
Dogfennau
- Adroddiad - Awst 2013 PDF 923 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru PDF 148 KB Gweld fel HTML (2) 20 KB
- Llythyr ymgynghori PDF 195 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad: WP 1 - Dŵr Dyffryn Dyfrdwy PDF 124 KB Gweld fel HTML (4) 27 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad: WP 2 - Severn Trent Water (Saesneg yn unig) PDF 214 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad: WP 3 - Achub y Plant (Saesneg yn unig) PDF 119 KB Gweld fel HTML (6) 50 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad: WP 4 - Cyngor Defnyddwyr Dŵr (Saesneg yn unig) PDF 234 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad: WP 5 - Comisiwn Ddydiant Dŵr Yr Alban (Saesneg yn unig) PDF 133 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad: WP 6 - Dŵr Cymru (Saesneg yn unig) PDF 4 MB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad: WP 7 - OFWAT PDF 1 MB