Ymchwiliad i Ordewdra ymysg Plant

Ymchwiliad i Ordewdra ymysg Plant

Mae Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i ordewdra ymysg plant. 

 

Nod cyffredinol yr ymchwiliad yw: 

 

  • adolygu pa mor effeithiol yw rhaglenni a chynlluniau Llywodraeth Cymru sydd â'r nod o ostwng lefel gordewdra ymysg plant yng Nghymru, a nodi meysydd lle y gallai fod yn fuddiol rhoi camau ychwanegol ar waith.

 

Bydd yr ymchwiliad yn cynnwys y ffactorau o ran ffordd o fyw sy’n cyfrannu at ordewdra ymysg plant, y cymorth sydd ar gael i blant sydd dros bwysau a’r driniaeth (clinigol a heb fod yn glinigol) ar gyfer plant sy’n ordew a’u teuluoedd.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/04/2013

Dogfennau

Ymgynghoriadau