Cyllideb Llywodraeth Cymru 2014-15

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2014-15

Edrychodd y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol.

 

Gweithiodd hefyd gyda pwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau bod cynigion ar gyfer portffolios Gweinidogol penodol wedi cael eu hystyried yn fanwl. Cynhaliwyd y pwyllgor sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn archwilio i’r agweddau ar y gyllideb daeth o dan eu cylchoedd gwaith hwy, ac wedyn yn adrodd yn ôl i ni gan amlinellu unrhyw bryderon sydd ganddynt.

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/07/2013

Y Broses Ymgynghori

Darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor

Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor Cyllid yn y cyfeiriad isod, i gyrraedd erbyn dydd Gwener, 13 Medi  2013 fan bellaf. Os ydych yn dymuno cyfrannu ond eich bod yn pryderu na allwch wneud hynny erbyn y dyddiad cau, dylech siarad â Chlerc y Pwyllgor ar y rhif 029 2089 8409.

Dogfennau

Ymgynghoriadau