Ymchwiliad i rywogaethau goresgynnol estron
Ymchwiliad i rywogaethau goresgynnol estron
Mae’r
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi cynnal ymchwiliad byr i ddulliau o
fynd i’r afael â Rhywogaethau Goresgynnol Estron yng Nghymru. Cytunwyd ar y
cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr ymchwiliad:
–
Asesu pa mor ddigonol yw’r data a’r wybodaeth sydd ar
gael ar hyn o bryd am ba mor gyffredin yw rhywogaethau goresgynnol estron yng
Nghymru, a’u heffeithiau;
–
Asesu’r camau y mae Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau
perthnasol wedi’u cymryd hyd yma i fynd i’r afael â’r mater hwn; ac
–
Ystyried cynigion y Comisiwn Ewropeaidd i gyflwyno
Cyfarwyddeb a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i aelod-wladwriaethau gymryd camau
cydgysylltiedig i fynd i’r afael â’r mater hwn.
Ar 9 Mai
2013, gwahoddwyd ystod o sefydliadau i ymuno â ni yn yr Ardd Fotaneg
Genedlaethol i rannu eu safbwyntiau.
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech
unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor at PwyllgorAC@cymru.gov.uk
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/04/2013
Dogfennau