Reoli Tir yn Gynaliadwy

Reoli Tir yn Gynaliadwy

Gwyliwch fideo o’r sesiynau adborth o’r gweithdy i randdeiliaid i drafod materion allweddol yr ymchwiliad

http://www.youtube.com/watch?v=X2hwb_EtX3U&list=UUfFbE37IX0a-XAKE9yw-CPQ

 

Ymgynghoriad WEDI CAU

 

 

 

Cylch gwaith

 

Dangosodd digwyddiadau, astudiaethau ac adroddiadau nad oedd dyfodol cynaliadwy ar gyfer amaethyddiaeth a’n hamgylchedd yn sicr o bell ffordd.  Ar ben hyn, roedd agweddau o’r ddau yn arbennig o fregus a phrin oedd eu gwytnwch yn wyneb newid annisgwyl.

 

O ran amaethyddiaeth a’r amgylchedd naturiol, roedd yn glir inni na allem wireddu dyfodol cynaliadwy i un heb y llall. Dyna pam yr oeddem yn credu ei fod yn bwysig ein bod yn edrych ar wytnwch a chynaliadwyedd ein harferion o reoli tir a pholisïau yng Nghymru.

 

Ein bwriad yw casglu tystiolaeth a dadansoddi’r materion sy’n codi cyn dod i gasgliadau a llunio argymhellion i helpu i sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n defnyddio’i hoffer polisi yn y ffordd orau posibl i sicrhau bod ein tir yn cael ei reoli mewn modd cynaliadwy.

 

Er mwyn dod i’r pwynt hwn byddwn yn ystyried tri chwestiwn allweddol:

·         Sut ydym am weld rheoli tir cynaliadwy yng Nghymru’n edrych a pha ganlyniadau rydym am eu sicrhau, yn y tymor byr, canol tymor a’r hir dymor?

·         Beth yw’r rhwystrau sy’n ein hatal rhag sicrhau’r canlyniadau hyn yn awr?

·         Sut ydym yn goresgyn y sialensiau hyn?

·         Beth yw'r prif yrwyr polisi a sut y gellir llunio hyn i oresgyn yr heriau hyn?

Wrth wneud hyn, rydym yn dymuno’n arbennig (ond nid unig) i glywed eich barn ar:

·         Sut yr ydym yn diffinio ecosystemau a gwasanaethau ecosystem allweddol mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i Gymru? 

·         Sut yr ydym yn datblygu llinell sylfaen o ble y gellid mesur cynnydd? Mae yma’n gynnwys sut yr ydym yn casglu, cydgysylltu a defnyddio data i gefnogi rheoli tir cynaliadwy yng Nghymru.

·         Pa cymhellion y gallwn eu rhoi i reolwyr tir ddatblygu arferion cynaliadwy ac yn arbennig unrhyw ffynonellau newydd o fuddsoddiad y gallwn eu denu i gefnogi rhain?.

·         Sut y gallwn sicrhau bod ein polisiau rheoli tir cynaliadwy yn cynnal cymunedau gwledig llewyrchus a denu newydd-ddyfodiaid i’r sector diwydiannau'r tir?

·         Y raddfa(eydd) mwyaf addas ddaearyddol y dylem fod yn sicrhau polisiau ac arferion rheoli tir cynaliadwy yng Nghymru.

·         Os oes camau allweddol y gallwn eu cymryd i gyflawni atebion sydyn yn y tymor byr a’r camau y dylem fod yn eu cymryd ar gyfer y tymor hir.

Wrth gynnal yr ymchwiliad hwn, cawsom ein harwain gan farn a safbwyntiau a fynegwyd wrthym yn ein gweithdy i randdeiliaid ar 3 Gorffennaf 2013. Cynhaliwyd deialog gyda’r rhanddeiliaid hyn trwy gydol yr ymchwiliad hwn.

 

 

Dilynwch yr ymchwiliad

 

Mae pob cyfarfod lle y cafodd yr ymchwiliad ei ystyried yn ymddangos o dan y tab 'Cyfarfodydd' uchod.

 

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad, gohebiaeth a dogfennau ysgrifenedig perthnasol eraill wedi’u cyhoeddi ar waelod y dudalen hon.

 

 

Rhagor o wybodaeth

 

Datblygu tir yn gynaliadwy astudiaethau achos

 

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor at PwyllgorAC@cymru.gov.uk

 

·         Dychwelyd i hafan y Pwyllgor

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/06/2013

Dogfennau