Deddf Addysg (Cymru) 2014

Deddf Addysg (Cymru) 2014

Bil Llywodraeth a gyflwynwyd gan Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Mae’r Bil Addysg (Cymru) yn ceisio deddfu yn y meysydd canlynol:

  • cyngor y Gweithlu Addysg, gan gynnwys cofrestru a rheoleiddio athrawon a’r gweithlu ehangach;
  • dyddiadau tymor ysgolion;
  • penodi Prif Arolygydd EM ac Arolygwyr EM ar gyfer addysg a hyfforddiant yng Nghymru o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2005.

 

Pan gyflwynwyd y Bil, roedd hefyd yn cynnwys darpariaethau a oedd yn ymwneud ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) fel a ganlyn:

 

  • diwygio'r dull o gofrestru a chymeradwyo ysgolion annibynnol mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig;
  • asesiad ôl-16 o anghenion addysgol a hyfforddiant ac addysg bellach arbenigol.

 

Cafodd y darpariaethau AAA hyn eu tynnu o’r Bil yn ystod trafodion Cyfnod 2.

 

Cyfnod presennol

 

Daeth Deddf Addysg (Cymru) 2014 (gwe-fan allanol) yn gyfraith yng Nghymru (gwe-fan allanol) ar 12 Mai 2014.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

 Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno’r Bil – 1 Gorffennaf 2013


Bil Addysg (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF, 240KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF680KB)

 

Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol: 1 Gorffennaf 2013 (PDF, 114KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil: 1 Gorffennaf 2013 (PDF, 45KB)

 

Datganiad yn y Cyfarfod Llawn: Cyflwyno Bil Addysg (Cymru): 2 Gorffennaf 2013

 

Crynodeb y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil (PDF, 435KB)

 

Geirfa’r Gyfraith – Bil Addysg (Cymru) (PDF, 127KB)

 


Cyfnod 1
- Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol

 

Ymatebion i’r ymgynghoriad

 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

17 Gorffennaf 2013

26 Medi 2013

2 Hydref 2013

10 Hydref 2013

24 Hydref 2013

6 Tachwedd 2013 (preifat)

14 Tachwedd 2013 (preifat)

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (PDF, 925KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF, 655KB)

 

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, 6 Ionawr 2014 (PDF 85KB)

 

Llythyr at y Cadeirydd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, 7 Ionawr 2014 (PDF 89KB)


Cyfnod 1
- Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol




Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Rhagfyr 2013.


Penderfyniad Ariannol


Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Addysg (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Rhagfyr 2013.


Cyfnod 2
- Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau


Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 23 Ionawr 2014.

Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 13 Rhagfyr 2013 (PDF, 73KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 6 Ionawr 2014 (PDF50KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 7 Ionawr 2014 (PDF79KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 16 Ionawr 2014 (PDF120KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 23 Ionawr 2014 (PDF, 144KB)

Grwpio Gwelliannau: 23 Ionawr 2014 (PDF, 62KB)

 

 

Bil Addysg (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen). (PDF345KB) 

Crynodeb 2 y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil (PDF, 146KB)

Memorandwm Esboniadol Diwygiwyd (PDF, 879KB)


Cyfnod 3
- y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau


Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Mawrth 2014.

Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 30 Ionawr 2014 (PDF, 50KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 12 Chwefror 2014 (PDF, 50KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 28 Chwefror 2014 (PDF, 56KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 3 Mawrth 2014 (PDF, 56KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 4 Mawrth 2014 (PDF, 91KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 11 Mawrth 2014 (PDF, 101KB)

Grwpio Gwelliannau: 11 Mawrth 2014 (PDF, 63KB)

 

Bil Addysg (Cymru) - fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 (PDF240KB)

(Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)


Cyfnod 4
- Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn


Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 25 Mawrth 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Bil Addysg (Cymru), fel y’i pasiwyd (PDF, 214KB)

 

Bil Addysg (Cymru), fel y’i pasiwyd (Crown XML)


Cydsyniad Brenhinol

 
Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 12 Mai 2014.

 

 

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/07/2013

Prif Aelod: Huw Lewis AC

Dogfennau