P-04-496 Ysgolion pob oed
P-04-496 Ysgolion pob oed
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno canllawiau i
awdurdodau addysg lleol ar uno a chau ysgolion yn ymwneud ag ysgolion pob oed
(hy ysgolion sy'n cynnig addysg gynradd, uwchradd ac ôl-16 ar yr un safle).
Gofynnwn i ganllawiau
o'r fath:
¾
atal awdurdodau lleol rhag creu ysgolion ar ddau safle
neu ragor, yn ymwneud ag ysgolion pob oed, os oes raid teithio dros 10 milltir
rhwng y safleoedd.
¾
atal awdurdodau lleol rhag creu ysgolion ar ddau safle
neu ragor, yn ymwneud ag ysgolion pob oed, cyn adleoli i un safle newydd, oni
bai bod yr un safle newydd honno'n gallu darparu addysg i ddisgyblion o bob
oed;
¾
cydnabod mai dymuniad rhai rhieni a disgyblion yw cael
ysgol pob oed a'i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ateb y galw am ysgolion
o'r fath os oes digon o alw amdanynt;
¾
hyrwyddo ymdrechion i sefydlu ysgolion pob oed yng
Nghymru ac i sicrhau eu bod yn parhau;
¾
sicrhau nad yw disgyblion, o ganlyniad i benderfyniad i
gau neu uno ysgol, yn ymwneud ag ysgol pob oed, yn cael eu gorfodi i deithio
dros 45 munud i ysgol sy'n darparu addysg ffydd addas.
Prif ddeisebydd:
Dawn Docx
Ysytyriwyd am y tro
cyntaf gan y Pwyllgor: 24 Medi 2013
Nifer y llofnodion: 10
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/09/2013