P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am yr angen brys i ddarparu uned anhwylderau bwyta arbenigol yng Nghymru.

Gwybodaeth ychwanegol:

Hoffem weld uned anhwylderau bwyta arbenigol yn cael ei hadeiladu yng Nghymru i leihau’r pwysau a’r anghyfleustra o orfod teithio mor bell o aelodau’r teulu a chyfeillion drwy orfod mynd i Loegr i gael triniaeth. Yn 2007, cydnabu’r Llywodraeth nad oedd triniaeth arbenigol ar gael yng Nghymru a bod angen i’r sefyllfa hon newid, ond bum mlynedd yn ddiweddarach rydym yn dal i aros am y newid hwnnw. Gwn o brofiad personol pa mor anodd yw bod mewn ysbyty mor bell o gartref, a chredaf y byddai cael uned anhwylderau bwyta yng Nghymru yn gwneud y broses o gael triniaeth ac o wella yn rhwyddach i ddioddefwyr o Gymru.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/02/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylderau Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc a chytunwyd i gau’r ddwy ddeiseb o ystyried bod adolygiad annibynnol manwl o wasanaethau anhwylderau bwyta wedi’i gynnal a bod Llywodraeth Cymru yn craffu ar ymatebion y byrddau iechyd i argymhellion yr adolygiad, ynghyd â darparu adnoddau ychwanegol ei hun.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 08/10/2013.

 

 

Prif ddeisebydd:  Keira Marlow

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 8 Hydref 2013

 

Nifer y llofnodion : 526

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/10/2013