Amcangyfrif Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2014-15

Amcangyfrif Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2014-15

Cafodd y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2013. O dan y Ddeddf, roedd swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn parhau ac roedd corff newydd o’r enw Swyddfa Archwilio Cymru yn cael ei greu. Mae hefyd yn nodi trefniadau atebolrwydd a llywodraethu mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Ar 16 Gorffennaf 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog i ddirprwyo rhai o’r swyddogaethau yn y Ddeddf i bwyllgor cyfrifol. Mae’r cynigion hefyd yn diwygio Swyddogaethau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, gan gael gwared ar y rhai sy’n ymwneud â goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru a’r Archwilydd Cyffredinol a’u dirprwyo, yn lle hynny, i’r pwyllgor cyfrifol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar 1 Hydref 2013 i ddirprwyo’r swyddogaethau hyn i’r Pwyllgor Cyllid. Mae’r swyddogaethau a ddirprwywyd i’r Pwyllgor Cyllid yn cynnwys craffu ar yr amcangyfrif blynyddol o incwm a threuliau gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae hynny wedi sicrhau bod y swyddogaethau hynny ar wahân i rôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o ran goruchwylio Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Math o fusnes:

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/11/2013

Angen Penderfyniad: 11 Tach 2013 Yn ôl Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau