Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar reoleiddio ac arolygu gofal a chymorth
Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar reoleiddio ac arolygu gofal a chymorth
Cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar 30 Medi 2013 er mwyn ceisio barn ar ei
chynigion ar gyfer deddfwriaeth ar gyfer model o ofal a chymorth ar sail
llesiant dinasyddion a gwell ganlyniadau iddynt, gan sicrhau'r un pryd bod
darparwyr gwasanaethau a'r gweithlu yn bodloni safonau ansawdd. Daeth yr
ymgynghoriad i ben ar 6 Ionawr 2014. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad
ar gael ar wefan
Llywodraeth Cymru.
Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru sesiwn friffio ffeithiol gyda swyddogion
Llywodraeth Cymru ar 7
Tachwedd 2013 er mwyn cael trosolwg o'r Papur Gwyn ar Ddyfodol Rheoleiddio
ac Arolygu Gofal a Chymorth yng Nghymru, strategaeth yr ymgynghoriad, a'r
amserlen ar gyfer y camau nesaf.
Mae'r holl wybodaeth
am ystyriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal
Cymdeithasol (Cymru) ar gael ar wefan
y Bil.
Math o fusnes: Gwaith cyn y broses Ddeddfu (e.e. Papurau Gwyn)
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/10/2013