Ymchwiliad i Arferion Gorau o ran y Gyllideb
Ymchwiliad i Arferion Gorau o ran y Gyllideb
Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i
arferion gorau o ran y gyllideb er mwyn sicrhau bod prosesau effeithiol yn eu
lle i graffu ar y pwerau ariannol ym Mil Cymru (Bil Senedd y
DU). Penderfynodd y Pwyllgor ystyried yr
ymchwiliad mewn dwy ran. Cytunwyd i ystyried:
Rhan 1 - yr
arfer gorau mewn prosesau cyllidebol a'r modd y gellir ei gymhwyso yng Nghymru
– cwblhau Gorffennaf 2014
- Yr
arfer gorau yn rhyngwladol ar gyfer atebolrwydd ariannol a phrosesau
cyllidebol, yn enwedig mewn gweinyddiaethau datganoledig
- Cyfleoedd
i'r prosesau cyllidebol gynnwys cysyniadau newydd - fel gwariant ataliol,
cyllidebau blynyddol llai cyfyngedig, a chyllidebau sy'n seiliedig ar
raglenni/canlyniadau.
I lywio ei waith, gofynnodd y Pwyllgor yn benodol am
farn ar unrhyw un o’r pwyntiau a ganlyn, neu ar bob un ohonynt:
Yr arfer gorau yn rhyngwladol – beth yw egwyddorion atebolrwydd
ariannol? Sut y mae gwledydd eraill yn
sicrhau atebolrwydd ariannol datganoledig gan barhau i fod â rheolaeth ariannol
ganolog?
A yw'r pwerau datganoledig wedi'u teilwra ar gyfer
setliad datganoli Cymru – gan fod y pwerau ym Mil Cymru wedi'u seilio ar y
pwerau yn Neddf yr Alban, a yw hyn yn creu problemau annisgwyl yng Nghymru?
Cysylltu cyllidebau â chanlyniadau – pa brosesau cyllidebol newydd
sydd eu hangen i wella'r cysylltiadau rhwng polisïau, rhaglenni gwariant a
chanlyniadau? Sut y byddai modd gwahaniaethu rhwng y canlyniadau a gynhyrchwyd
gan Lywodraeth y DU a'r economi fyd-eang a'r canlyniadau a gynhyrchwyd gan
bolisïau lleol Llywodraeth Cymru?
Rhan 2 -
cynllunio gweithdrefnau cyllidebol newydd a'u rhoi ar waith - parhaus
- Rheolaeth
ariannol - amlinellu dulliau cyllidebol o reoli'r pwerau newydd o ran
trethi a benthyca, a sut y bydd y rhain yn effeithio ar floc Cymru ac
economi Cymru. Yn benodol, sut y
caiff argymhellion Comisiwn Holtham eu bodloni.
- Rhoi
gweithdrefnau cyllidebol newydd ar waith i adlewyrchu'r pwerau ychwanegol.
Er mwyn llywio ei ddull gweithredu, mae'r Pwyllgor yn
benodol am glywed eich barn ar yr holl bwyntiau a ganlyn, neu ar unrhyw un
ohonynt:
Materion o ran trethi a benthyca a nodwyd yn
Adroddiad Holtham – e.e. yr effaith ar y grant bloc a'r dulliau o fynegeio addasiadau;
sail y trethi datganoledig; diffyg terfyn isaf yn seiliedig ar anghenion; dim
penderfyniad clir ar faterion cydgyfeirio; maint y trethi a gynhyrchir a faint
y gellir ei fenthyca yn erbyn yr incwm hwn; ar ba sail y byddai unrhyw drethi
newydd yn cael eu codi ac a fyddant yn cael eu seilio ar egwyddorion neu
reolau?
Rheoli risgiau cyllidebol – pa risgiau cyllidebol
ychwanegol sydd ynghlwm wrth y pwerau newydd a sut y caiff y rhain eu monitro a'u
rheoli (e.e. sut y caiff diffygion refeniw eu rheoli)?
Sut y caiff y prosesau cyllidebol newydd hyn eu
gwneud yn dryloyw ac yn ddealladwy – i'r holl randdeiliaid, a sut y gall
rhanddeiliaid fod yn rhan o'r broses gyllidebol.
Cynllunio cyllideb y DU – sut y mae'r Cynulliad yn
gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a chyrff cyhoeddus eraill o
dan y trefniadau newydd; sut y dylid amserlennu'r broses gyllidebol i ateb
gofynion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (e.e. adolygiadau o wariant y
DU)?
Gweithredu – sut y mae'r Cynulliad yn datganoli
pwerau ariannol yn ffurfiol; sut y mae'r Cynulliad yn craffu ar ofynion
Llywodraeth Cymru o ran trethi, benthyca a gwariant, ac yn eu cymeradwyo a'u
monitro; sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cymeradwyaeth Trysorlys Ei
Mawrhydi ar gyfer pwerau newydd i godi trethi ac i fenthyca, a pha rôl y
dylai'r Cynulliad ei chwarae wrth gytuno â newidiadau o'r fath.
Tystiolaeth gan y cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad i gasglu
tystiolaeth am arferion gorau o ran y gyllideb.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/03/2014
Dogfennau
- Part 1
- Adroddiad - Gorffennaf 2014
- Ymateb Llywodraeth Cymru - Hydref 2014
- Part 2
- Adroddiad - Mai 2015
- Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth i’r Cadeirydd, Arferion Gorau o ran y Gyllideb Rhan 2 - Ymateb i'r argymhellion PDF 140 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru - Ebrill 2015
- Diweddariad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth yn dilyn cyfarfod 10 Rhagfyr 2014 PDF 46 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd ir Llywydd - 5 Mai 2015 PDF 200 KB
- Llythyr gan y Llywydd i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid - 19 Mai 2015 PDF 3 MB
- Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth i'r Cadeirydd - 3 Awst 2015 (Saesneg yn unig) PDF 92 KB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i arfer orau mewn prosesau cyllidebol (Wedi ei gyflawni)