Maes Awyr Caerdydd - Y Pedwerydd Cynulliad

Maes Awyr Caerdydd - Y Pedwerydd Cynulliad

Bu’r Pwyllgor Menter a Busnes Adroddiad Cysylltedd Rhyngwladol drwy Borthladdoedd a Meysydd Awyr Cymru ym mis Gorffennaf 2012.  Craffodd y Pwyllgor ar waith Prif Weinidog Cymru ar 30 Ionawr 2013 ynghylch Tasglu Maes Awyr Caerdydd, ac ar waith Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y cynlluniau ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ar 20 Mawrth 2014.

 

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i Lywodraeth Cymru yn caffael a phrynu Maes Awyr Caerdydd yn dilyn cyhoeddi adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (27 Ionawr 2016).  Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ei ymchwiliad i Lywodraeth Cymru yn caffael a phrynu Maes Awyr Caerdydd yn Mawrth 2016.

Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad. Yn ei adroddiad etifeddiaeth, argymhellodd y Pwyllgor y dylai ei Bwyllgor olynol drafod ymateb Llywodraeth Cymru, pan fydd ar gael, yn gynnar yn y Pumed Cynulliad ac y dylai geisio’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gweithredu’r argymhellion yn hydref 2016.

Hynt yr ymchwiliad

Mae’r tabl canlynol yn nodi dyddiadau a chynnwys y sesiynau tystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad.

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Maes Awyr Caerdydd

2 Chwefror 2016

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

2. Simon Jones, Cwmni DaILIC

9 Chwefror 2016

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

3. Llywodraeth Cymru

11 Chwefror 2016

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 3

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 3 ar Senedd TV

4. Arbenigwyr Teithiau Awyren a Thrafnidiaeth

11 Chwefror 2016

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 4

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 4 ar Senedd TV

5. Transport Scotland

11 Chwefror 2016

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 5

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 5 ar Senedd TV

 

Math o fusnes:

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/04/2014

Dogfennau