Offerynnau statudol y mae angen i’r Cynulliad gydsynio â nhw - Y Pedwerydd Cynulliad
Offerynnau statudol y mae angen i’r Cynulliad gydsynio â nhw - Y Pedwerydd Cynulliad
O dan rai amgylchiadau, bydd angen cydsyniad y
Cynulliad ar rai offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion y DU. Er
enghraifft, rhai offerynnau statudol a wnaed o dan Ddeddf Diwygio
Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 a Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011.
Yn dilyn argymhelliad yn ein hadroddiad pwyllgor, Ymchwiliad i'r pwerau a roddir i
Weinidogion Cymru yn Neddfau'r DU, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar 25
Medi 2013 i gyflwyno Rheol Sefydlog
30A i ddarparu gweithdrefn i'r Cynulliad roi ei gydsyniad mewn perthynas ag
offerynnau statudol y DU a wneir gan Weinidogion y DU, os oes angen ei
gydsyniad. Mae'r Rheol Sefydlog yn darparu gweithdrefn debyg i honno ar gyfer
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29
ond yn ymwneud ag offerynnau statudol yn hytrach na Biliau ac yn cynnwys
gofyniad i osod Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) a Chynnig
Cydsyniad Offeryn Statudol.
Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol a ystyrir yn
unol â Rheol Sefydlog 30A
- SICM
1 - Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Taliadau Gan Gynghorau Plwyf,
Cynghorau Cymuned Ac Ymddiriedolwyr Siarter) 2013
- SICM
2 - Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu'r Pwyllgor Cynghori Ar Brisio
Gwelliannau A Materion Hawliau Tenantiaid) 2014
- SICM
3 - Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Bwyd o Brydain) 2014
- SICM
4 - Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu'r Pwyllgorau Cynghori ar
Blaladdwyr) 2015
Offerynnau statudol y mae’n rhaid i’r Cynulliad
gydsynio â nhw cyn y gellir cyflwyno Rheol Sefydlog 30A
- CLA CM1 - The Local Better Regulation Office
(Dissolution and Transfer of Functions Etc) Order 2011
- CLA CM2– Memorandwm Cydsyniad ar gyfer Gorchymyn y
Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012
- CLA CM3 -
Memorandwm Cydsyniad ar gyfer Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain
(Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012
- CLA CM4 - Memorandwm Cydsyniad ar gyfer The Public
Bodies (Abolition of Her Majesty's Inspectorate of Courts Administration
and the Public Guardian Board) Order 2012
- CLA CM5 –
Cynnig Cydsynio ar gyfer Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Cyngor
Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd) 2013
Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/04/2014