P-04-554 Polisi swyddogol gan Lywodraeth Cymru sy’n gwahardd sefydliadau nad ydynt yn dryloyw rhag gweithio mewn cyrff cyhoeddus
P-04-554 Polisi swyddogol gan Lywodraeth Cymru sy’n gwahardd sefydliadau nad ydynt yn dryloyw rhag gweithio mewn cyrff cyhoeddus
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i lunio polisi swyddogol sy’n gwahardd sefydliadau,
ymgynghorwyr ac elusennau nad ydynt yn dryloyw rhag gweithredu o fewn i
Lywodraeth Cymru, y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus yng
Nghymru yn gyffredinol; o ran hyfforddiant mewnol neu fathau eraill o
hyfforddiant. Os bydd unrhyw sefydliadau hyfforddiant, ymgynghorwyr ac
elusennau nad ydynt yn atebol yn defnyddio arian cyhoeddus, dylid eu hatal rhag
gwneud hynny os nad ydynt yn gwbl dryloyw ac yn gallu rhoi datgeliad llawn o’r
hyn y mae eu cyrsiau yn eu cynnwys a’r gost i drethdalwyr a’r cyhoedd yn
gyffredinol. Dylai rhestr lawn o raglenni hyfforddiant o’r fath gynnwys rhai
sydd wediu targedu at ddatblygu gyrfa a datblygiad personol, yn ogystal â rhai
nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â swydd yr unigolyn. Byddai polisi datgelu
llawn o’r fath ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn atgyfnerthu ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i dryloywder a bod yn agored.
Prif ddeisebydd: Cymru Sofren / Sovereign Wales
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 13 Mai 2014
Nifer y
llofnodion: 10
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/05/2014