Ymchwiliad i ailgylchu yng Nghymru
Ymchwiliad i ailgylchu yng Nghymru
Cynhaliodd Pwyllgor
Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i Ailgylchu
yng Nghymru.
Diben yr ymchwiliad hwn oedd i edrych yn fanwl ar
arferion a threfniadau ailgylchu gwastraff tai awdurdodau lleol drwy
Gymru. Edrychodd yr ymchwiliad ar yr
holl ddeunyddiau gwastraff, gan gynnwys gwastraff bwyd a gwastraff o’r ardd.
Cylch gorchwyl
- Ymchwilio i’r rhesymau dros yr amrywiadau mewn arferion ailgylchu
gwastraff tai awdurdodau lleol yng Nghymru, ac effeithiau’r amrywiadau
hyn.
- I ba raddau y mae arferion ailgylchu awdurdodau lleol yn gydnaws â
phatrwm casgliadau Cynllun Sector Gwastraff Trefol Llywodraeth Cymru, ac
edrych beth yw’r rhwystrau a’r hwyluswyr i ymlynu.
- Asesu a yw gwybodaeth ac arweiniad ar gael i ddeiliaid tai ynglŷn
â pham a sut y dylent fod yn ailgylchu, ac edrych ar beth yw’r rhwystrau
posibl, a beth yw’r hwyluswyr i wella cyfraddau ailgylchu.
- Ymchwilio i ymateb awdurdodau lleol i’r Trywydd Rheoliadau Gwastraff a
gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac effeithiau a goblygiadau posibl hwn ar
arferion ailgylchu ledled Cymru.
- Cael gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhwng arferion casglu deunydd
ailgylchu a chyfraddau ailgylchu.
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth
am y testun yma.
I gael darllen hanes yr ymchwiliad cliciwch ar y ddolen
isod i weld yr erthygl Storify:
https://storify.com/assemblywales/ymchwiliad-i-ailgylchu-yng-nghymru-ailgylchucymru
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/05/2014
Dogfennau
- Minister for Natural Resources: Response to the Committee's report PDF 224 KB
- Adroddiad - Rhagfyr 2014 PDF 689 KB
- 16 Hydref 2014 - Rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog yn dilyn sesiwn dystiolaeth PDF 2 MB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i ailgylchu yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)