Grŵp Trawsbleidiol
Cymunedau Diwydiannol - Y Bumed Senedd
Disgrifiad
Cafodd y Grŵp Trawsbleidiol hwn ei ddiddymu ar ddiwedd
y Bumed Senedd (Ebrill 2021).
Y Grŵp
Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol
Diben
Bydd y Grŵp
Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol yn gweithredu fel fforwm ar gyfer
atebion a fydd yn gwella llesiant economaidd a chymdeithasol yn ardaloedd
diwydiannol a chyn-ardaloedd diwydiannol Cymru. Drwy ddulliau fel cyfarfodydd
agored, briffio a gwaith cyfryngau, bydd y grŵp yn
tynnu sylw at yr amrywiaeth o heriau cymdeithasol-economaidd sy'n effeithio ar
yr ardaloedd hyn ac yn archwilio amrywiaeth o ffyrdd a all helpu i orchfygu'r
heriau hyn.
Felly, bydd y Grŵp Trawsbleidiol yn:
• Anelu at ddylanwadu ar
benderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill i sicrhau y
caiff adnoddau priodol eu defnyddio i gynorthwyo'r gwaith o adfywio cymunedau
diwydiannol Cymru yn economaidd ac yn gymdeithasol; a
• Meithrin cysylltiadau â
chymheiriaid ar lefel y DU, yn ogystal â chymheiriaid yn y gwledydd
datganoledig eraill, i rannu gwaith ymchwil ac arfer gorau er mwyn helpu i
wella ein cymunedau diwydiannol a chyn-gymunedau diwydiannol.
Deiliaid swyddi
Cadeirydd: Vikki
Howells AS
Ysgrifennydd: Peter Slater, Industrial Communities Alliance
Dogfennaeth y Grŵp Trawsbleidiol
Mae Cofnodion pob
cyfarfod, ac Adroddiadau Blynyddol a Datganiadau Ariannol ar gael yma:
Dogfennaeth y Grŵp Trawsbleidiol
Gwybodaeth gyswllt
Cyswllt:
Ged McHugh
Ffôn: 07527226269
Aelodau
- Vikki Howells AS
- Dawn Bowden AS
- Suzy Davies AS
- Lynne Neagle AS
- Huw Irranca-Davies AS
- Cllr David White - Bridgend CBC/Chair, Industrial Communities Alliance Wales
- Peter Slater - Industrial Communities Alliance