Grŵp Trawsbleidiol
Y Gyfraith - Y Bumed Senedd
Disgrifiad
Cafodd y Grŵp Trawsbleidiol hwn ei ddiddymu ar ddiwedd
y Bumed Senedd (Ebrill 2021).
Y Grŵp Trawsbleidiol ar y
Gyfraith
Diben
Bydd y Grŵp Trawsbleidiol ar y Gyfraith yn gweithredu fel fforwm i drafod
materion cyfreithiol sy'n berthnasol i Gymru a'i phroffesiwn cyfreithiol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried y cyfleoedd a'r
heriau yn sgil y dargyfeiriad cynyddol rhwng y gyfraith yng Nghymru a Lloegr,
gan gynnwys y posibilrwydd o awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu benodol ar
gyfer Cymru.
Bydd y grŵp yn
ceisio cryfhau'r berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r proffesiwn
cyfreithiol yng Nghymru. Bydd y gwaith cychwynnol yn cynnwys annog Aelodau'r
Cynulliad, yn ogystal â chyfreithwyr, bargyfreithwyr a gweithwyr proffesiynol
cyfreithiol eraill yng Nghymru, i ymgysylltu â'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng
Nghymru, ac yna ystyried goblygiadau ei Adroddiad.
Bydd y Grŵp yn
hyrwyddo eglurder, hygyrchedd a dealltwriaeth o'r gyfraith sy'n gymwys yng
Nghymru.
Deiliaid swyddi
Cadeirydd: Mark
Reckless AS
Ysgrifennydd: Catriona Brown, AMSS
Dogfennaeth y Grŵp Trawsbleidiol
Mae Cofnodion pob
cyfarfod, ac Adroddiadau Blynyddol a Datganiadau Ariannol ar gael yma:
Dogfennaeth y Grŵp Trawsbleidiol
Aelodau
- Mark Reckless AS
- Mick Antoniw AS
- Gareth Bennett AS
- Michelle Brown AS
- Angela Burns AS
- Suzy Davies AS
- Janet Finch-Saunders AS
- John Griffiths AS
- David Melding AS
- Darren Millar AS
- Adam Price AS