Pobl y Senedd

Paul Davies AS

Paul Davies AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Preseli Sir Benfro

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o arian y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu i wasanaethau awtistiaeth yn Sir Benfro ar gyfer y flwyddyn ariannol hon?

Wedi'i gyflwyno ar 13/10/2021

Pa gyfarfodydd y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda sefydliadau a grwpiau awtistiaeth o Sir Benfro yn y Chweched Senedd?

Wedi'i gyflwyno ar 13/10/2021

Yn dilyn WQ83440 a WQ83441, beth yw'r amserlen ar gyfer cyflwyno mesurau rheoli ar gyfer rhyngweithiadau adar môr a physgodfeydd mewn ardaloedd morol gwarchodedig?

Wedi'i gyflwyno ar 12/10/2021

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yn Sir Benfro?

Wedi'i gyflwyno ar 07/10/2021

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i flaenoriaethu a buddsoddi mewn atal diabetes a gofalu am bobl â diabetes?

Wedi'i gyflwyno ar 06/10/2021

Pryd y bydd strategaeth arloesi traws-lywodraeth newydd Llywodraeth Cymru yn cael ei chyhoeddi a/neu ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghori?

Wedi'i gyflwyno ar 06/10/2021

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Paul Davies AS

Bywgraffiad

Diddordebau a llwyddiannau allweddol

Mae Paul yn ymgyrchydd cyson dros y gymuned awtistiaeth yng Nghymru a chyflwynodd ddeddfwriaeth ddrafft ar Ddeddf Awtistiaeth i Gymru, a arweiniodd at newidiadau statudol sylweddol mewn darpariaeth awtistiaeth yng Nghymru, er na chafodd y ddeddf ei hun ei phasio gan y Senedd. Paul hefyd yw prif ffigwr yr ymgyrch i gadw a diogelu Cofebion Rhyfel yng Nghymru yn well ac mae'n codi'r mater hwn yn Siambr y Senedd yn rheolaidd.

Hanes personol

Ganed Paul ym 1969 a thyfodd i fyny ym Mhont-siân y tu allan i Landysul yn sir Ceredigion. Mynychodd Ysgol Gynradd Tregroes, Ysgol Ramadeg Llandysul ac ar ôl astudio ei Lefel A yn Ysgol Gyfun Castellnewydd Emlyn, ymunodd â Banc Lloyds ym 1987.

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei ethol, parhaodd Paul i gael ei gyflogi gan Fanc Lloyds a'i rôl olaf gyda'r cwmni oedd fel Rheolwr Busnes yn Hwlffordd yn helpu i gefnogi busnesau bach.

Hanes gwleidyddol

Ym mis Chwefror 2000, ymladdodd Paul isetholiad Seneddol Ceredigion a gwella sefyllfa Plaid y Ceidwadwyr Cymreig gan ddod yn drydydd y tro hwn ar ôl iddi ddod yn bumed yn yr etholiad blaenorol. Safodd hefyd yn etholiad cyffredinol 2001 fel yr ymgeisydd Seneddol dros Geredigion. Yn 2003, safodd Paul dros y Ceidwadwyr Cymreig ym Mhreseli Sir Benfro yn etholiad y Cynulliad a chynyddu cyfran ei blaid o 23 y cant i 30 y cant. Ym mis Mai 2007, etholwyd Paul yn Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig dros Breseli Sir Benfro, gyda 38.6 y cant o'r bleidlais a mwyafrif o 3,205. Yn dilyn yr etholiad, penodwyd Paul yn Weinidog yr Wrthblaid dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn Weinidog yr Wrthblaid dros Addysg a'r Gymraeg. Yn etholiad y Cynulliad yn 2011, ail-etholwyd Paul a chynyddodd ei gyfran o'r bleidlais i 42.4 y cant. Fe'i penodwyd yn Arweinydd Dros Dro Grŵp Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig ac fe'i penodwyd yn ddiweddarach yn Ddirprwy Arweinydd Grŵp Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig a Gweinidog Cyllid yr Wrthblaid. Yn 2016, ail-etholwyd Paul, gan gynyddu ei fwyafrif i 3,930. Parhaodd yn Ddirprwy Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Rheolwr Busnes a Phrif Chwip yn ogystal â dod yn llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Faterion Gwledig. Ym mis Medi 2018, etholwyd Paul yn Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, swydd a fu ganddo tan 2021. Yn etholiad y Senedd yn 2021, cafodd Paul ei ailethol eto gyda mwyafrif o 1,400.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 04/05/2007 - 31/03/2011
  2. 06/05/2011 - 05/04/2016
  3. 06/05/2016 - 28/04/2021
  4. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Paul Davies AS