Pobl y Senedd

Mark Isherwood AS

Mark Isherwood AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Gogledd Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Sut mae GIG Cymru yn cefnogi teuluoedd â phlant anabl?

Wedi'i gyflwyno ar 13/03/2024

Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad, Adfywio Canol Trefi, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2024.

I'w drafod ar 06/03/2024

Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar blant sy'n colli addysg?

Wedi'i gyflwyno ar 06/03/2024

Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i gynnal archwiliad o weithlu canser y pancreas i sicrhau bod y llwybr delfrydol cenedlaethol ar gyfer canser y pancreas yn cael ei weithredu'n llw...

Wedi'i gyflwyno ar 01/03/2024

Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod pob claf canser pancreatig sy'n addas ar gyfer treialon clinigol yn cael cyfle i gymryd rhan yn un ohonynt? 

Wedi'i gyflwyno ar 01/03/2024

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar argaeledd radiotherapi abladol stereotactig ar gyfer trin canser y pancreas yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 01/03/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Mark Isherwood AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Ni ddylech ysgrifennu mwy na 300 gair. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb rhwng eich proffil chi a phroffiliau eich cyd-Aelodau Cynulliad.

Diddordebau Mark y tu allan i wleidyddiaeth yw ei deulu a'i gartref. Mae hefyd yn hwylio llai nag y dylai ac yn hoff o gerdded ei gi.

Mae Mark wedi bod yn gynghorydd cymunedol ar gyfer Treuddyn, yn gyn-lywodraethwr (ac yn gadeirydd) Ysgol Parc y Llan ac yn gyn-aelod bwrdd gwirfoddol o Gymdeithas Tai Venture.

Mae'n Aelod o Fwrdd Rheoli Clwb Awtistiaeth Buddies, yn Is-lywydd Canolfan Adnoddau Anabledd Gogledd Cymru, yn Noddwr o Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, yn Llysgennad ar gyfer Geidiau Clwyd, yn Is-lywydd Cymdeithas Chwarae Gogledd Cymru, yn Is-noddwr prosiect hwylio RORO, yn aelod o Lys Prifysgol Glyndŵr, yn Aelod o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Un o noddwyr y Ganolfan Arwyddo Golwg Sain, yn Llywydd y Ganolfan ar gyfer Ymgysylltu Diwylliannol, yn Is-lywydd Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, yn Ymddiriedolwr Families Need Fathers Both Parents Matter Cymru, yn Noddwr o Fforwm Anabledd Sir y Fflint, ac yn Noddwr o Fforwm Polisi Cymru. Mark hefyd oedd sylfaenydd CHANT Cymru (Ysbytai Cymuned yn Gweithredu'n Genedlaethol Gyda'i Gilydd) yn yr ail Gynulliad.

Hanes personol

Mae Mark yn byw yn Sir y Fflint gyda'i wraig. Mae ganddynt chwech o blant ac un ŵyr. Graddiodd Mark mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Newcastle, a chymhwysodd fel Aelod Cyswllt o Sefydliad Siartredig y Bancwyr. Roedd yn arfer gweithio fel rheolwr ardal ar gyfer cymdeithas adeiladu yn y Gogledd.

Hanes gwleidyddol

Etholwyd Mark i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 2003, cyn cael ei ail-ethol yn 2007, 2011 a 2016. Yn yr Ail a'r Trydydd Cynulliad, ef oedd Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyllid, addysg, cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a thai. Hefyd, roedd yn aelod o nifer o Bwyllgorau'r Cynulliad a chadeiriodd Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 y Cynulliad. Hefyd cadeiriodd Grwpiau Trawsbleidiol ar dlodi tanwydd, niwrowyddorau ac angladdau a phrofedigaeth. Yn y Pedwerydd Cynulliad, ef oedd Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig dros Gymunedau, Tai, Plismona a Gogledd Cymru, yn ogystal ag eistedd ar Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a Phwyllgor Safonau'r Cynulliad. Cadeiriodd Grwpiau Trawsbleidiol ar awtistiaeth, cyflyrau niwrolegol, tlodi tanwydd, hosbisau a gofal lliniarol ac angladdau a phrofedigaeth, a chyd-gadeiriodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd.

Yn y Bumed Senedd, ef oedd Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig dros Gymunedau, Ewrop a Gogledd Cymru, yna Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol a Thai, ac yn olaf, Gweinidog yr Wrthblaid dros Gyllid a’r Prif Chwip. Hefyd, roedd yn Gadeirydd ar Grwpiau Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, Awtistiaeth, Anabledd, Cyflyrau Niwrolegol, ac Angladdau a Phrofedigaeth.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 02/05/2003 - 02/05/2007
  2. 04/05/2007 - 31/03/2011
  3. 06/05/2011 - 05/04/2016
  4. 06/05/2016 - 28/04/2021
  5. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Mark Isherwood AS