Pobl y Senedd

Bethan Sayed AS

Bethan Sayed AS

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Gorllewin De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff y Gweinidog roi'r dyddiad agor swyddogol ar gyfer yr uned mamau a babanod, sydd i fod i agor ym mis Ebrill 2021?

Wedi'i gyflwyno ar 17/03/2021

Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Edrych ar ddatganoli darlledu: sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni?’ Fe’i osodw...

I'w drafod ar 17/03/2021

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y bydd penderfyniad am yr opsiwn parhaol ar gyfer yr uned mamau a babanod ar safle ysbyty Tonna yn cael ei wneud?

Wedi'i gyflwyno ar 17/03/2021

Pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn wedi'i rhoi i wella gweithio hyblyg a rhannu swyddi?

Wedi'i gyflwyno ar 10/03/2021

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i iechyd meddwl wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio iechyd meddwl, llesiant a'r Gymraeg?

Wedi'i gyflwyno ar 10/03/2021

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Awdurdod Glo ynghylch llifogydd diweddar yn ardal Castell-nedd Port Talbot?

Wedi'i gyflwyno ar 03/03/2021

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Bethan Sayed AS

Bywgraffiad

Roedd Bethan Sayed yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2007 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Bethan yn mwynhau nofio a mynd i’r gampfa, yn ogystal â gwylio pêl-droed a rygbi’r gynghrair. Mae hefyd yn mwynhau cerddoriaeth ac mae'n canu'r fiola.

Mae diddordebau gwleidyddol Bethan yn cynnwys datblygu economaidd, materion rhyngwladol, hawliau menywod, materion lloches, diogelu gwasanaethau lleol, a'r ddarpariaeth ar gyfer anhwylderau bwyta yng Nghymru.

Cefndir proffesiynol

Mae Bethan yn gyn-lywydd Urdd Myfyrwyr Aberystwyth ac yn aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Hanes gwleidyddol

Ar ôl cael ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2007, bu Bethan yn aelod o'r Pwyllgor Deisebau, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (y Pwyllgor Archwilio gynt) a'r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant. Hi hefyd oedd llefarydd Plaid Cymru ar dlodi plant a materion diwylliannol.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Tymhorau yn y swydd

  1. 04/05/2007 - 31/03/2011
  2. 06/05/2011 - 05/04/2016
  3. 06/05/2016 - 28/04/2021

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Bethan Sayed AS