Pobl y Senedd

Dai Lloyd AS

Dai Lloyd AS

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Gorllewin Abertawe

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygiadau o ran capasiti gwelyau yn y GIG er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniad o restrau aros a heriau sy'n dod i'r amlwg fel COVID hir?

Wedi'i gyflwyno ar 16/03/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru yn natblygiad posibl morlyn llanw ym Mae Abertawe?

Wedi'i gyflwyno ar 11/03/2021

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'w gyd-weinidogion ar gynorthwyo lesddeiliaid sy'n wynebu rhwymedigaethau ariannol wrth fynd i'r afael â diffygion mewn adeil...

Wedi'i gyflwyno ar 09/03/2021

Mae'r Senedd hon: a) yn croesawu'r fenter 'Rivals on the Pitch - United Against Racism' gan gefnogwyr clybiau pêl-droed Dinas Abertawe a Dinas Caerdydd fel rhan o ymgyrch gwrth-hiliae...

I'w drafod ar 05/03/2021

A wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod ychwanegion fitamin D ar gael i'r teuluoedd tlotaf, i breswylwyr mewn cartrefi nyrsio, yn ogystal ag i blant?

Wedi'i gyflwyno ar 02/03/2021

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ymchwil a gynhaliwyd gan Royal Society Open Science ym mis Tachwedd 2020 sy'n argymell ychwanegiadau fitamin D i bawb o 20/25 microgram bob dyd...

Wedi'i gyflwyno ar 01/03/2021

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Dai Lloyd AS

Bywgraffiad

Roedd Dai Lloyd yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae diddordebau gwleidyddol Dai Lloyd yn naturiol ym meysydd iechyd a llywodraeth leol. Dai yw Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg y Login Fach. Mae hefyd yn bregethwr lleyg, ac yn pregethu'n rheolaidd mewn capeli ledled Prydain.

Hanes personol

Ganed Dai Lloyd ym 1956 yn Nhywyn, Gwynedd. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan, ac aeth ymlaen i astudio yn y Coleg Meddygaeth yng Nghaerdydd.

Cefndir proffesiynol

Ar ôl graddio, daeth Dai Lloyd yn feddyg teulu yn Abertawe. Cyn dod yn Aelod Cynulliad, roedd yn Gynghorydd Sir yn Ninas a Sir Abertawe.

 

Hanes gwleidyddol

Roedd Dai Lloyd yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru rhwng 1999 a 2011. Yn ystod ei gyfnod fel Aelod Cynulliad, gwasanaethodd Dai fel Gweinidog Cyllid yr Wrthblaid a llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol, Llywodraeth Leol ac Adfywio.

Cafodd ei ailethol i’r Cynulliad yn 2016.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Tymhorau yn y swydd

  1. 07/05/1999 - 30/04/2003
  2. 02/05/2003 - 02/05/2007
  3. 04/05/2007 - 31/03/2011
  4. 06/05/2016 - 28/04/2021

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Dai Lloyd AS