Pobl y Senedd

Rhodri Glyn Thomas

Rhodri Glyn Thomas

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Rhodri Glyn Thomas

Bywgraffiad

Roedd Rhodri Glyn Thomas yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2016. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Cefndir personol

Ganed Rhodri yn Wrecsam ym 1953. Aeth i Brifysgolion Cymru, Aberystwyth, Bangor a Llanbedr Pont Steffan. Mae’n weinidog yr Efengyl a hefyd yn gyfarwyddwr ar gwmni. Mae hefyd yn rhugl yn y Gymraeg.

Cefndir gwleidyddol

Etholwyd Rhodri i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys amaeth a’r economi wledig, Ewrop, a materion cymdeithasol a thrafnidiaeth. Pan benderfynwyd ar lywodraeth glymbleidiol rhwng Llafur a Phlaid Cymru ym mis Gorffennaf 2007, penodwyd Rhodri yn Weinidog dros Dreftadaeth, ond ymddiswyddodd o’r swydd yn 2008. Yn dilyn ei ymddeoliad o’r swydd honno, aeth ymlaen i fod yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig, yn aelod o’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol, a’r Pwyllgor Cynaliadwyedd.

Ymgysylltiadau

Bu Rhodri yn Gadeirydd CND Cymru, yn llefarydd Cymru dros Fusnesau Preifat ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cyswllt Canolbarth  a De Cymru NSPCC Cymru. Mae Rhodri hefyd wedi bod yn Gadeirydd ar lywodraethwyr ysgol

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB)

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Rhodri Glyn Thomas