Pobl y Senedd

Janet Finch-Saunders AS

Janet Finch-Saunders AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Aberconwy

Comisiynydd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ailystyried y penderfyniad i beidio â dod â dyddiad y taliad sylfaenol ymlaen, a nodi a ellid darparu benthyciadau brys i ffermwyr sy'n wynebu problemau po...

Wedi'i gyflwyno ar 17/09/2018

Yn dilyn WAQ76948, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro pryd y dylid gwneud cyhoeddiad ynghylch ymholiadau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â lansio llorweddol ym maes awyr Llanbedr, a no...

Wedi'i gyflwyno ar 17/09/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet nodi pryd y bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar gynllun gwella cyffyrdd 15 ac 16 wedi cael eu dadansoddi, ac egluro a gynhelir ymgynghoriad pellach yn se...

Wedi'i gyflwyno ar 14/09/2018

Pa ymdrechion a wnaeth Llywodraeth Cymru i hysbysu trigolion ardaloedd Penmaenmawr a Llanfairfechan y gallent fod wedi gofyn am gyfarfodydd gyda swyddog cyswllt y cyhoedd cyn cau'r ymgyng...

Wedi'i gyflwyno ar 14/09/2018

A wnaiff y Prif Weinidog nodi a yw Llywodraeth Cymru wedi prynu neu rhentu'r swyddfa newydd yn yr Almaen, faint o arian sydd wedi'i fuddsoddi ynddynt hyd yn hyn, ac esbonio faint o staff...

Wedi'i gyflwyno ar 14/09/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet nodi sawl practis deintyddol a oedd yn cynnig gofal drwy'r GIG ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru yn 2015/16, 2016-17 a 2017/18, a nodi pa fesurau y mae Llyw...

Wedi'i gyflwyno ar 14/09/2018

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Janet Finch-Saunders AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Yn wleidyddol, y meysydd allweddol i Janet yw sicrhau mwy o fuddsoddiad mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol – yn arbennig ar gyfer yr henoed a'r rhai sy'n dioddef o salwch iechyd meddwl; lleihau rheoleiddio a biwrocratiaeth i ffermwyr; sicrhau'r broses lawn o gyflwyno band eang cyflym iawn i ardaloedd gwledig; cefnogi busnesau bach a chanolig, a lleihau gwastraff mewn Llywodraeth ar bob lefel i sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr.

Y tu allan i wleidyddiaeth, Janet yn frwd iawn o blaid anifeiliaid a chadwraeth forol, ac mae'n weithgar yng nghymuned Llandudno. Mae'n forwr brwd, ac yn mwynhau treulio amser gyda'i theulu.

Hanes personol

Mae Janet yn briod â Gareth Saunders. Maent yn byw yn Llandudno, ac mae ganddynt ddau o blant gyda’i gilydd – Adam a Hannah.

Cefndir proffesiynol

Fel menyw fusnes ac entrepreneur brwd, sefydlodd Janet nifer o fusnesau lleol llwyddiannus. Mae'n gefnogol o fusnesau newydd a busnesau bach a chanolig sydd wedi ennill eu plwyf, a chychwynnodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach yn ystod y Pedwerydd Cynulliad.

Hanes gwleidyddol

Mae Janet wedi gwasanaethu fel Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer Aberconwy ers 2011, ac yn 2016 hi oedd y deiliad cyntaf i gadw'r sedd yn y Cynulliad. Yn y gorffennol mae wedi dal y portffolio ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, a chynrychiolodd Janet y Grŵp fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol rhwng 2012 a 2016 yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, gan eistedd ar y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Mae Janet wedi cadw'r portffolio hwn fel Llefarydd Cysgodol ar gyfer Llywodraeth Leol yn y Pumed Cynulliad.

Yn y gorffennol, cynrychiolodd Janet ward Craig-y-Don ar Gyngor Tref Llandudno a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Yn yr awdurdod lleol, bu'n eistedd fel Aelod Cabinet â chyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch cymunedol, ac mae wedi bod yn Gadeirydd y Prif Bwyllgor Craffu ac yn Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae Janet yn falch o fod yn gyn-Faer Llandudno, fel y bu ei mam a’i thad cyn hynny.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2011 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Janet Finch-Saunders AS