Pobl y Senedd

Julie Morgan AS

Julie Morgan AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Gogledd Caerdydd

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Julie Morgan yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Julie Morgan yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru: 


Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo'r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resy...

I'w drafod ar 23/01/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwarian...

I'w drafod ar 10/09/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Gosodwyd y Bil Plan...

I'w drafod ar 10/09/2019

Mae'r Cynulliad hwn: 1. Yn mynegi pryder ynghylch cyfradd goroesi gwael y canserau llai goroesadwy yng Nghymru o bum mlynedd, sef cyfartaledd o dim ond 16 y cant ac yn galw ar GIG Cym...

I'w drafod ar 12/12/2018

A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Senedd Ieuenctid Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 05/12/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 28/11/2018

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Julie Morgan AS

Bywgraffiad

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Ymysg prif ddiddordebau Julie mae iechyd, cydraddoldeb, materion menywod, yr amgylchedd a hawliau plant.

Mae hi wedi cefnogi Macmillan ar hyd ei hoes ac yn cynnal Bore Coffi blynyddol. Mae Julie hefyd yn cefnogi datblygiad y Ganolfan Ganser newydd yn Felindre yng Ngogledd Caerdydd ac mae wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer i gefnogi grŵp o gleifion a gafodd Hepatitis C yn dilyn sgandal gwaed halogedig y GIG.

O ran yr amgylchedd, mae Julie wedi bod yn gefnogwr brwd o’r Grŵp Gweithredu Cronfeydd Dŵr i achub, ac yna adfer, Cronfeydd Dŵr Llanisien a Llys-faen. Daeth yr ymgyrch hon i ben yn llwyddiannus yn 2023 pan ailagorwyd y cronfeydd dŵr ir cyhoedd. Mae hi hefyd wedi ymgyrchu ddwywaith dros gael Llain Las swyddogol ar gyfer gogledd Caerdydd ac yn parhau i geisio gwarchod y tir hwn yn y tymor hir.

Ar ôl i fab etholwr gael ei anafu'n ddifrifol gan gi, cefnogodd Julie ymgyrch i reoli cŵn peryglus. Yn fwy diweddar mae hi wedi ymgyrchu i leihau gwastraff bwyd.

Fel aelod o undeb Unite mae gan Julie ddiddordeb mawr mewn hawliau undebau llafur a chyn dod yn weinidog yn 2018 bu’n gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar undeb PCS, yn ogystal â Grwpiau Trawsbleidiol ar iechyd a phlant.

Roedd Julie yn un o sylfaenwyr Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Roedd hefyd yn un o aelodau cyntaf Cymdeithas Celfyddydau'r Merched, ac mae'n un o noddwyr Touch Trust, Advocacy Matters, Bosom Pals Pontyclun a Grŵp Eiriolaeth ar gyfer Menywod sy'n Ceisio Lloches.

Hanes personol

Cafodd Julie Morgan ei geni yng Nghaerdydd a'i haddysg yn Ysgol Gynradd Dinas Powys, Ysgol Howell's yng Nghaerdydd, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol Manceinion a Phrifysgol Caerdydd. Mae ganddi BA Anrhydedd mewn Saesneg a diploma ôl-radd mewn gweinyddiaeth gymdeithasol.

Cefndir proffesiynol

Roedd Julie yn weithiwr cymdeithasol yng Nghaerdydd a'r Barri, gan weithio gyda phobl anabl ac ym maes amddiffyn plant. Sefydlodd y cynllun lleoli teuluoedd cyntaf yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau sydd mewn trafferthion. Mae Julie hefyd yn gyn-gyfarwyddwr cynorthwyol i Barnardo's yng Nghymru.

Roedd hefyd yn gynghorydd ar Gyngor De Morgannwg o 1985 i 1997 ac yn gynghorydd ar Gyngor Caerdydd o 1995.

Hanes gwleidyddol

Ym 1997, etholwyd Julie yn AS dros Ogledd Caerdydd - un o'r 13 o fenywod yn unig sydd erioed wedi bod yn ASau Cymreig (hyd yn hyn) a'r fenyw gyntaf i gynrychioli Caerdydd yn San Steffan. Roedd yn AS dros Ogledd Caerdydd am 13 mlynedd nes iddi golli'r sedd o drwch blewyn o 194 o bleidleisiau yn 2010.

Fel AS dros Ogledd Caerdydd, roedd Julie Morgan yn aelod o'r Pwyllgorau Dethol Cyfiawnder, Materion Cymreig a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ac yn aelod o Grŵp Menywod y Blaid Lafur Seneddol.

Roedd yn gadeirydd ar grwpiau sy'n cynnwys y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Plant yng Nghymru, gan weithio gyda grwpiau gwirfoddol ar gyfer plant ledled Cymru; y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Diwygio'r Gyfraith Sipsiwn a Theithwyr, a'r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Cydraddoldeb Rhyw (gan weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol). Roedd hi hefyd yn gyd-gadeirydd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar TB Byd-eang.

Yn ystod ei hamser yn San Steffan, cyflwynodd dri bil aelod preifat - un ar wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus, un ar ganiatáu pleidleisio yn 16 oed, ac un ar atal pobl dan 18 oed rhag defnyddio gwelyau haul, a ddaeth yn gyfraith yn 2010.

Etholwyd Julie yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd yn 2011. Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, roedd hi ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Amgylchedd, yn ogystal â chadeirio saith grŵp trawsbleidiol yn ymdrin â meysydd fel plant, canser, a nyrsio a bydwreigiaeth.

Cafodd Julie ei hailethol i’r Pumed Cynulliad â’r nifer uchaf o bleidleisiau o blith pob Aelod. Bu’n cadeirio’r Grwpiau Trawsbleidiol ar Ganser, yr Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) a’r Grŵp Trawsbleidiol ar Sipsiwn, Roma a Theithwyr, tan iddi ddod yn Ddirprwy Weinidog Iechyd ym mis Rhagfyr 2018. Roedd hefyd yn aelod o ddau bwyllgor, sef y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, tan iddi ddod yn Weinidog.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2011 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Julie Morgan AS