Pobl y Senedd

Heledd Fychan AS

Heledd Fychan AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Canol De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pam nad oes cynrychiolydd myfyrwyr gyda hawliau pleidleisio ar fwrdd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil?

Wedi'i gyflwyno ar 08/05/2024

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ynghylch darparu cyllid gan Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun...

Wedi'i gyflwyno ar 08/05/2024

Sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau bod lleisiau dysgwyr ar draws addysg bellach ac addysg uwch yn cael eu clywed o fewn y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd?

Wedi'i gyflwyno ar 08/05/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghanol De Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 08/05/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad yn ymateb i'r newyddion bod dros 100 o swyddi gyda chwmni Everest mewn perygl o'u colli yn Rhondda Cynon Taf?

Tabled on 01/05/2024

Pa gamau mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod absenoldebau dysgwyr mewn ysgolion yn lleihau?

Wedi'i gyflwyno ar 30/04/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Heledd Fychan AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Prif ddiddordebau Heledd yw diwylliant, hanes a threftadaeth; sicrhau gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a diddymu tlodi plant; a sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Hanes personol

Magwyd Heledd yn Ynys Mon, lle mynychodd Ysgol Gynradd y Talwn ac Ysgol Uwchradd David Hughes. Astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn, gan ddod yn Swyddog Sabathol Addysg yn Undeb Myfyrwyr Coleg y Drindod ac yna yn Swyddog Sabathol Addysg Undeb Myfyrwyr Iwerddon. Mae ganddi radd meistr mewn Hanes Canol Oesoedd o Brifysgol Bangor. Mae Heledd yn byw ym Mhontypridd gyda ei gwr, a’u mab.

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei hethol, roedd Heledd wedi bod yn gweithio ers deuddeg mlynedd i Amgueddfa Cymru fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus gan arwain ar lywodraethiant, strategaeth, cyfathrebu mewnol, cysylltiadau rhyngwladol a ymgysylltu gyda rhanddeiliaid. Bu yn aelod o Fwrdd y Museums Association gan gadeirio eu Pwyllgor Moeseg mewn Amgueddfeydd a’u Pwyllgor Cenhedloedd a’u cynrychioli fel siaradwraig wadd mewn nifer o gynhadleddau rhyngwladol. Cyn hynny, bu Heledd yn gweithio i grwp Plaid Cymru yn San Steffan.

Hanes gwleidyddol

Yn 2017, cafodd Heledd ei hethol i gynrychioli ward Tref Pontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf a hefyd Cyngor Tref Pontypridd. Ers cael ei hethol, mae wedi arwain a chefnogi nifer o ymgyrchoedd blaenllaw yn lleol gan gynnwys galw am Ymchwiliad Annibynnol i lifogydd dinistriol 2020, achub yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn erbyn newidiadau i ysgolion yn ardal Pontypridd.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Heledd Fychan AS