Pobl y Senedd

Rhianon Passmore AS

Rhianon Passmore AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru a chydweithredol

Grŵp Llafur Cymru

Islwyn

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod y mis hwn yn nodi 40 mlynedd ers dechrau streic y glowyr; b) bod y frwydr hon wedi gweld pwysau llawn y rhyfel ynghylch cyflog y wladwriaeth yn...

I'w drafod ar 05/03/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau'r GIG yn Islwyn?

Wedi'i gyflwyno ar 25/01/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyfraddau presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn Islwyn?

Wedi'i gyflwyno ar 22/11/2023

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn monitro'r Post Brenhinol yng Nghymru yn effeithiol?

Wedi'i gyflwyno ar 16/11/2023

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar iechyd pobl Islwyn?

Wedi'i gyflwyno ar 15/11/2023

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi grwpiau cymunedol yn Islwyn drwy'r argyfwng costau byw?

Wedi'i gyflwyno ar 12/10/2023

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Rhianon Passmore AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae gan Rhianon ddiddordeb penodol mewn addysg, llywodraeth leol, datblygu economaidd ac adfywio. Yn eiriolwr brwdfrydig dros fenywod, mae Rhianon wedi cadeirio Fforwm Pwyllgorau a Pholisi Menywod Llafur Cymru, ac wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cymraes y Flwyddyn.

Mae Rhianon hefyd yn eiriolwr angerddol dros gerddoriaeth a'r celfyddydau creadigol. Mae ganddi ddiddordeb cryf mewn addysg cerddoriaeth a gwaith datblygu ym maes y celfyddydau. Mae wedi gwasanaethu ar Gyngor Darlledu BBC Cymru ac ar gorff gweithredol Cyngor Llyfrau Cenedlaethol Cymru.

Hanes personol

Cafodd Rhianon ei geni a'i haddysgu yn Islwyn. Mae ei hymrwymiad hirsefydlog i brosiectau adfywio cymunedol yn ne Cymru wedi cael ei gydnabod gan Sefydliad Joseph Rowntree.

Yn sgil ei phrofiadau personol fel mam sydd â phedwar o blant ac sy'n gweithio, mae Rhianon yn credu'n gryf mewn darparu gofal plant angenrheidiol, a hynny mewn modd sy'n hygyrch i bawb.

Cefndir proffesiynol

Mae gan Rhianon brofiad helaeth ar draws y sector addysg; mae'n arbenigwr ym maes cerddoriaeth cyn ysgol, yn gerddor ac yn gyn-ddarlithydd. Mae'n gyn Aelod Cabinet dros Addysg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn gyn Gadeirydd Gwasanaeth Cyflawni Addysg De-ddwyrain Cymru ac yn gyn Is-gadeirydd Gwasanaethau Cymorth Cynhwysiant Addysg De-ddwyrain Cymru (ESIS).

Mae gan Rhianon gefndir cryf mewn llywodraeth leol, ac mae'n fentor llywodraeth leol achrededig i gymheiriaid. Yn sgil ei hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus, Rhianon oedd cynrychiolydd Cymru ar Fwrdd Adfywio a Thrafnidiaeth y Gymdeithas Llywodraeth Leol. Mae wedi gweithio fel uwch swyddog mewn undeb llafur, gan gyflawni blaenoriaethau cydraddoldeb ar draws rhanbarth de-orllewin y Deyrnas Unedig.

Hanes gwleidyddol

Mae Rhianon wedi bod yn aelod selog o'r Blaid Lafur am flynyddoedd lawer, ac mae wedi gwasanaethu ar Fforwm Polisi Cenedlaethol y blaid. Mae ganddi brofiad gwleidyddol helaeth o ran datblygu polisi ar lefel leol a chenedlaethol. Mae'n credu'n gryf mewn defnydd ymarferol o werthoedd Llafur o ran sicrhau cyfle cyfartal i bawb, ac mae ganddi hanes hir o ymgyrchu yn erbyn sefydliadau asgell dde eithafol.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Rhianon Passmore AS