Pobl y Senedd

Jeremy Miles AS

Jeremy Miles AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru a chydweithredol

Grŵp Llafur Cymru

Castell-nedd

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Jeremy Miles yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Jeremy Miles yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru: 


Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), fel y'i diwygiad ar ôl Cyfnod 3

I'w drafod ar 27/06/2022

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cymwysterau Proffesiynol sy'n ymwneud â diogelu ymreolaeth rheoleid...

I'w drafod ar 08/02/2022

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 25.15 yn cymeradwyo fersiwn ddrafft Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021. Gosodwyd y Gorchymyn Drafft a'r Memorandwm Esboni...

I'w drafod ar 26/01/2021

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Se...

I'w drafod ar 05/01/2021

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwyse...

I'w drafod ar 16/12/2020

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Se...

I'w drafod ar 08/12/2020

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Jeremy Miles AS

Bywgraffiad

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae ei ddiddordebau’n cynnwys datblygu economaidd a datblygu cymunedol, ynghyd ag addysg a sgiliau. Mae Jeremy yn byw yng Nghwm Tawe yn etholaeth Castell-nedd. Mae’n mwynhau ffilmiau, darllen, coginio, heicio, beicio, a dilyn rygbi.

Hanes personol

Cafodd Jeremy ei eni a'i fagu ym Mhontarddulais. Fel siaradwr Cymraeg, cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera yn nyffryn Abertawe, a’r Coleg Newydd yn Rhydychen, lle darllenodd y gyfraith. Yn syth ar ôl graddio, bu Jeremy'n addysgu'r gyfraith ym Mhrifysgol Warsaw yng Ngwlad Pwyl.

Cefndir proffesiynol

Ar ddechrau ei yrfa, bu Jeremy’n ymarfer fel cyfreithiwr yn Llundain. Yn dilyn hynny, bu ganddo uwch swyddi cyfreithiol a masnachol mewn busnesau yn sector y cyfryngau, gan gynnwys ITV a rhwydwaith teledu'r Unol Daleithiau a stiwdio ffilmiau NBC Universal. Ar ôl dychwelyd i Gymru, sefydlodd ei ymgynghoriaeth ei hun, yn gweithio gyda chleientiaid rhyngwladol yn y sector darlledu a’r sector digidol. Mae Jeremy wedi bod yn ymddiriedolwr ac yn ysgrifennydd i Sefydliad Bevan, sef elusen cyfiawnder cymdeithasol. Mae ganddo brofiad hefyd fel mentor ieuenctid ac fel cynghorydd mewn canolfannau sy’n darparu cyngor cyfreithiol yn ddi-dâl.

Hanes gwleidyddol

Cafodd ei ethol i Senedd Cymru fel yr Aelod dros etholaeth Castell-nedd ym mis Mai 2016, yn dilyn ymddeoliad Gwenda Thomas AC. Mae Jeremy’n eistedd fel Aelod o’r Senedd ar ran Llafur Cymru a’r Blaid Gydweithredol. Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru yn 2017, roedd Jeremy yn aelod o nifer o bwyllgorau seneddol, gan gynnwys Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau; y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu; a'r Pwyllgor Materion Allanol. Bu hefyd yn cadeirio grŵp Cydweithredol Aelodaur Blaid Lafur. Cafodd Jeremy ei benodi i'r Cabinet fel y Cwnsler Cyffredinol ym mis Tachwedd 2017. Wedi i Mark Drakeford AS gael ei ethol yn Arweinydd Llafur Cymru ac yn Brif Weinidog ym mis Rhagfyr 2018, parhaodd Jeremy yn rôl hon, ond cafodd ei benodi i rôl newydd hefyd, sef Gweinidog Brexit. Cyn etholiad y Senedd yn 2021, bu Jeremy’n gwasanaethu fel y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, a bu hefyd yn arwain ar y gwaith o gynllunio adferiad Cymru yn dilyn pandemig Covid-19.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Jeremy Miles AS