Pobl y Senedd

Adam Price AS

Adam Price AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Comisiynydd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi’i wneud ynghylch faint o weithlu prifysgolion Cymru sy’n cael eu cyflogi ar gytundebau dim oriau a beth yw’r tueddiadau fesul prifysgolion ers 2018?

Wedi'i gyflwyno ar 20/11/2023

Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi’i wneud o gyfraddau staff i fyfyrwyr ym mhob un o brifysgolion Cymru a beth yw’r tueddiadau fesul prifysgol ers 2018?

Wedi'i gyflwyno ar 20/11/2023

Ymhellach i gwestiwn WQ89124, a wnaiff y Gweinidog restru, yn ôl blwyddyn ariannol, y sefydliadau addysg uwch mwyaf poblogaidd yng Nghymru i fyfyrwyr o Gymru astudio ynddynt, yn seiliedig...

Wedi'i gyflwyno ar 20/11/2023

Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi’i wneud o ddyled myfyrwyr yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 20/11/2023

A wnaiff y Gweinidog ystyried gwneud cais i fod yn rhan o fynegai ‘Rainbow Europe’ yr International Lesbian and Gay Association er mwyn mesur cynnydd yn erbyn y nod o fod yn wlad LHDT-gyf...

Wedi'i gyflwyno ar 08/11/2023

Pa gamau pellach sydd wedi'u cymryd gan y Llywodraeth o ran adeiladu ffordd osgoi Llandeilo ers datganiad ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ym mis Gorffennaf eleni?

Wedi'i gyflwyno ar 02/11/2023

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Adam Price AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Fulbright i Adam, i astudio yn y brifysgol o fri rhyngwladol, Harvard. Astudiodd ar gyfer gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus yno. Aeth yn ei flaen i ddod yn Gymrawd yn y Ganolfan Datblygu Rhyngwladol yn Ysgol Lywodraeth John F. Kennedy yn Harvard.

Yn 2014 enillodd y Fedal Efydd yng Ngŵyl Ffilm a Theledu Efrog Newydd am ei raglen ddogfen ar Streic y Glowyr ym 1984-1985. Yn 2015 cafodd ei gyfres pedair rhan ddwy Wobr BAFTA Cymru.

Hanes personol

Cafodd ei eni yng Nghaerfyrddin i deulu glöwr a chafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Aman ac yna ym Mhrifysgol Caerdydd lle y graddiodd gyda BSc (Econ).

Cefndir proffesiynol

Mae Adam yn gyn-Reolwr Gyfarwyddwr i Newidiem, ymgynghoriaeth polisi ac economeg sy'n gweithredu ledled y DU, ac yn gyn-Gyfarwyddwr Gweithredol yr asiantaeth datblygiad economaidd a newid diwylliannol yng Nghymru, Menter a Busnes.

Cyn cael ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol, roedd Adam yn gweithio fel Uwch Reolwr Rhaglen ar gyfer Sefydliad Arloesedd y DU.

Hanes gwleidyddol

Mae Adam yn gyn-Aelod Seneddol, ac roedd yn cynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr rhwng 2001 a 2010.

Roedd yn frwd ei wrthwynebiad i Ryfel Irac a rôl Tony Blair yn y rhyfel, ac arweiniodd ymgais, ochr yn ochr ag aelodau eraill o Blaid Cymru a'r SNP, i uchelgyhuddo Tony Blair. Cafodd Adam ei daflu allan o siambr Tŷ'r Cyffredin ar 17 Mawrth 2005 am wrthod tynnu'n ôl ei ddatganiad yn cyhuddo Tony Blair o fod wedi camarwain y Senedd.

Cychwynnodd Adam ddadl dair awr ar ymchwiliad i Ryfel Irac, gan arwain at sefydlu Ymchwiliad Chilcot.

Yn ystod ei amser yn Nhŷ'r Cyffredin gwasanaethodd ar y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, a bu'n llefarydd Plaid Cymru ar gyfer y Trysorlys, Busnes, Arloesedd a Sgiliau.

Adam oedd yr unig Aelod Seneddol o Gymru i gadw cefnogaeth y cyhoedd yn arolwg ar-lein y Western Mail ynglŷn ag Aelodau Seneddol yn ystod y sgandal treuliau yn 2009. Cafodd ei enwi yn Gyfathrebwr y Flwyddyn yng ngwobrau rhaglen AM.PM y BBC yn 2007, ac enillodd wobr Gwleidydd Ymgyrchu y Flwyddyn yn 2005 yng Ngwobrau Gwleidyddol Cymru ITV.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Adam Price AS