Ysgrifennydd y Cabinet dros
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Hanes
personol
Mae Huw yn briod â Joanna
Irranca-Davies (gwnaethant gyfuno eu cyfenwau, sef Davies ac Irranca, ar ôl priodi).
Mae ganddynt dri mab, ac maent i gyd yn falch o'u gwreiddiau teuluol yng
Nghymru a'r Eidal. Magwyd Huw mewn teulu â chysylltiadau cryf â'r Blaid Lafur.
Mae wedi ymgyrchu ar lawr gwlad a gweithredu ym maes adfywio cymunedol ers tro.
Mae Huw, a aned yn 1963, yn
gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Tre-gŵyr, ac yn gyn-fyfyriwr Coleg Crewe ac Alsager (BA Anrh) ac Athrofa Addysg
Uwch Abertawe (MSc).
Yn gerddwr brwd (fel Is-lywydd
Ramblers Cymru) ac yn "seiclwr bob dydd ar feic cefn syth", mae hefyd
yn ymlacio drwy wylio ei feibion yn chwarae rygbi neu drwy ddarllen nofelau
hanesyddol (ond byth unrhyw beth gwleidyddol!)
Cefndir
proffesiynol
Cyn ymuno â'r byd gwleidyddol,
gweithiodd Huw Irranca-Davies fel rheolwr yn y sector cyhoeddus a'r sector
preifat, ac fel uwch ddarlithydd mewn addysg uwch. Mewn isetholiad seneddol a
gynhaliwyd ym mis Chwefror 2002, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol y Blaid
Lafur yn etholaeth Ogwr. Daliodd y sedd honno tan 2016, pan gafodd ei ethol yn
Aelod Cynulliad dros Ogwr.
Hanes
gwleidyddol
Cafodd Huw ei ethol yn Aelod Seneddol
Llafur dros Ogwr yn 2002. Mae Huw wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Seneddol
Preifat i Weinidogion yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, Gogledd Iwerddon a’r
Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, fel Chwip y
Llywodraeth, fel Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac fel Gweinidog yr Amgylchedd.
O 2010, gwasanaethai fel Gweinidog yr
Wrthblaid dros Ynni, ac yna fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Fwyd, Ffermio a
Materion Gwledig. Ym mis Mai 2015, cafodd ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor
Archwilio Amgylcheddol. Daliodd y swydd honno tan fis Mai 2016, pan gafodd ei
ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru – Senedd Cymru bellach.
Yn y Bumed Senedd, ef oedd Cadeirydd y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, cyn iddo gael ei benodi’n
Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yna, ar gais y Prif Weinidog, daeth
yn Gadeirydd ar Grŵp
Llywio Buddsoddiad Rhanbarthol Cymru, y Grŵp Cynghori Ewropeaidd a Phwyllgor Monitro'r
Rhaglen, gan oruchwylio gwariant ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae ei rolau’n cynnwys
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, aelod o
Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Cadeirydd y Fforwm
Strategol ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, a Chadeirydd y Pwyllgor Diben
Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd. Mae Huw hefyd yn Gadeirydd, yn Is-gadeirydd ac
yn aelod o 25 Grŵp
Trawsbleidiol.